Mae Cymru’n paratoi at y penwythnos chwaraeon mwya’ yn hanes ei dwy brif gamp – rygbi a phêl-droed.
Mae’r ddau dîm cenedlaethol yn cystadlu i fynd ymhellach mewn pencampwriaethau rhyngwladol mawr trwy ennill eu grwpiau rhagbrofol.
Un pwynt sydd ei angen i’r tîm pêl-droed yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn Sarajevo yn rowndiau rhagbrofol Ewro16 ond maen ganddyn nhw’r cyfle hefyd i ennill eu grŵp os byddan nhw’n ennill.
Y dasg anferth i’r tîm rygbi yw curo Awstralia yng Nghwpan Rygbi’r Byd er mwyn ennill eu grŵp hwythau a chael tasg haws yn rowndiau’r wyth ola’.
Y pêl-droed
Fe fydd y tîm pêl-droed wedi cael eu hysbrydoli gan Ogledd Iwerddon, a lwyddodd neithiwr i gyrraedd y rowndiau terfynol am y tro cynta’ ers 30 mlynedd.
Ac fe roddodd un o’r ymosodwyr, Hal Robson-Kanu deyrnged i gyn-reolwr y tîm, y diweddar Gary Speed, am newid agwedd y garfan a’u gwneud yn uchelgeisiol.
Os byddan nhw’n llwyddo, dyma fydd y tro cynta’ ers 1958 iddyn nhw chwarae yn rowndiau terfynol pencampwriaeth ryngwladol o’r fath.
Mae seren fwya’r garfan, Gareth Bale, wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at yr ornest wedi dod tros anaf i’w goes.
Y rygbi
Y wobr i’r tîm rygbi o ennill yn Nhwickenham yn Llundain brynhawn fory fyddai cael cyfle da i gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd am y tro cynta’ erioed.
Mae Cymru wedi dangos eu bod yn disgwyl gêm agored trwy chwarae Justin Tipuric ochr yn ochr â’r capten, Sam Warburton, yn y rheng ôl – a’r ddau’n enwog am ennill y bêl wedi’r dacl.
Mae anafiadau hefyd wedi gorfodi newidiadau, gyda’r asgellwr George North yn symud i’r canol a’r chwaraewr o Seland Newydd, Gareth Anscombe – sydd â mam o Gymru – yn dod yn gefnwr.