Diwrnod cymysg gafodd golffwyr Cymru ar ddiwrnod cyntaf cystadleuaeth Meistri Prydain yn Woburn ddydd Iau.

Gorffennodd Bradley Dredge yn gydradd chweched ar ôl cwblhau’r rownd gyntaf mewn 66 ergyd, sydd bum ergyd yn well na’r safon.

Ond fe orffennodd Jamie Donaldson mewn 69 ergyd, ddwy ergyd yn well na’r safon, ac mae yntau yn safle rhif 27.

Bydd Donaldson yn taro’i ergyd gyntaf ar y degfed twll am 8.10 fore Gwener, tra bydd Dredge yn dechrau o’r twll cyntaf am 8.30yb.