Llys y Goron Caernarfon
Mae milwr wedi cael ei garcharu am bedair blynedd a hanner ar ôl iddo ymosod ar fyfyriwr 18 oed mewn tafarn yn Ynys Môn.
Roedd Steven Parry, 28, o Faes Mona, Amlwch wedi ymosod ar Tudor Morris Jones yn nhafarn yr Adelphi Vaults yn Amlwch ar 19 Gorffennaf.
Bu’n rhaid i’r myfyriwr gael llawdriniaeth am anafiadau i’w ben yn dilyn yr ymosodiad.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands yn Llys y Goron Caernarfon bod gan Parry, a oedd yn filwr gyda’r Gwarchodlu Cymreig, hanes o drais, gan gynnwys ymosodiad tebyg mewn tafarn, ond ei fod wedi llwyddo i osgoi mynd i drafferthion yn ystod ei bum mlynedd o wasanaeth gyda’r Gwarchodlu.
Dywedodd Anna Pope ar ran y diffynnydd ei fod wedi bod yn dioddef o iselder ar y pryd.
Roedd Parry wedi pledio’n euog i gyhuddiad o achosi niwed bwriadol.
Mae Parry wedi cael ei wahardd rhag cysylltu gyda Tudor Morris Jones neu unrhyw aelod arall o’i deulu am bum mlynedd, a rhag gwneud unrhyw sylwadau am y digwyddiad ar y we.