Mae dyn wedi pledio’n ddi-euog i ddau gyhuddiad yn ymwneud a’r ddamwain awyren a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala a’r peilot y llynedd.

Fe fu David Henderson, 66, gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun (Hydref 26) drwy gyswllt fideo. Mae wedi gwadu peryglu diogelwch awyren a cheisio cludo teithiwr heb ganiatâd nac awdurdod i wneud hynny.

Cafodd David Henderson o East Riding yn Swydd Efrog, ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn sefyll ei brawf ym mis Hydref 2021.

Mae wedi’i gyhuddo o ddwy drosedd o dan y Gorchymyn Llywio yn yr Awyr (2016) gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA).

Roedd Emiliano Sala, oedd yn chwarae i Nantes yn Ffrainc, ar fin dechrau cytundeb newydd gwerth miliynau o bunnoedd gyda Dinas Caerdydd.

Bu farw’r Archentwr 28 oed pan oedd yr awyren roedd yn teithio ynddi wedi plymio i’r môr ger Guernsey ar Ionawr 21, 2019.

Cafodd ei gorff ei dynnu o’r dŵr fis yn ddiweddarach ond nid yw corff y peilot David Ibbotson, 59, o Swydd Lincoln, erioed wedi cael ei ddarganfod.