Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i werth miloedd o bunnoedd o arian a chocên ar ôl dal dyn mewn car yng Nghaerfyrddin.
Cafodd Nigel Dale Lewis ei arestio ar ôl iddo yrru i mewn i ddau gar heddlu wrth geisio dianc.
Plediodd y dyn 33 oed yn euog yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher (Hydref 21) i chwe throsedd ddydd Mercher.
Roedd y rhain yn cynnwys gyrru’n beryglus, bod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant, gwrthod stopio i’r heddlu, difrod troseddol i gerbydau’r heddlu, gyrru heb drwydded a gyrru heb yswiriant.
Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, Tachwedd 6.
Dim dianc
Cafodd unedau plismona’r ffyrdd yr heddlu eu galw am tua 10:40yh nos Lun (Hydref 19) yn dilyn adroddiadau bod gyrrwr wedi gwrthod stopio ym Mhencader.
Gyrrodd y car ar yr A485 tuag at Ddolgwli, cyn troi ar yr A40 am Gaerfyrddin.
“Defnyddiodd swyddogion symudiad i ddod a’r cerbyd i stop yn ddiogel wrth ochr y ffordd,” meddai’r Arolygydd Andy Williams.
“Ond ceisiodd y gyrrwr osgoi cael ei stopio drwy yrru’n ôl, ond roedd swyddogion yn ei rwystro.
“Yna, ceisiodd yrru ymlaen gan daro olwyn un o’n ceir.
“Llwyddodd swyddogion i sicrhau nad oedd yn gallu dianc.
“Cafodd dau o’n cerbydau eu difrodi yn y digwyddiad, ond diolch byth na chafodd neb eu hanafu.”