Mae sïon yn dew y cawn gyhoeddiad ynghylch cyfyngiadau newydd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddydd Llun (19 Hydref).

Mae lle i gredu y bydd yn cyhoeddi rhyw fath o gyfnod clo wrth i Gymru nesáu at gyfnod hanner tymor (Hydref 26 – Hydref 30) – ac y bydd y cyfnod clo hwnnw yn fwy nag wythnos o hyd, gan ddechrau ar oddeutu 23 Hydref.

Ond ar hyn o bryd mae trafodaethau rhwng y Llywodraeth a gwahanol sectorau’n parhau.

Bydd cynhadledd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, amser cinio heddiw. Ni ddisgwylir y cyhoeddiad yn ystod hwnnw, er efallai y cawn awgrymiadau am beth sydd i ddod.

Mewn neges ar Twitter ddoe (Hydref 15), rhannodd newyddiadurwr blaenllaw’r BBC, Laura Kuenssberg, yr hyn mae hi wedi ei chlywed am gyhoeddiad posib.

“Mae’n swnio fel y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi, dros y diwrnodau nesa’, cyfnod clo dros dro i gyd-daro â hanner tymor ysgolion,” meddai.

“Efallai daw’r cyhoeddiad yng nghynhadledd wasg Prif Weinidog Cymru fory, ond efallai ni ddaw tan dydd Llun.”

Wrth siarad â BBC Radio Cymru, cadarnhaodd gweinidog Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, fod trafodaethau manwl yn mynd rhagddynt, ond dywedodd bod penderfyniad yn annhebygol cyn y penwythnos.

Ac wrth i’r llythyru barhau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi dweud ei fod wedi ysgrifennu at y Mark Drakeford yn gofyn iddo roi amser i fusnesau baratoi.

“Rhaid i ni dynnu’r cord argyfwng yn ddi-oed”

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw am weithredu ‘torrwr cylched’ o’r fath, a hynny “yn ddi-oed” i roi “eglurder a sicrwydd” i bobl:

“Mae angen cyhoeddiad brys arnom gan y Prif Weinidog yn cadarnhau ‘torrwr cylched’ yng Nghymru ac yn amlinellu beth yn union y bydd yn ei olygu i fywydau a bywoliaeth pobl,” meddai mewn datganiad.

“Er bod croeso i’r cynlluniau sydd eisoes ar y gweill, ni allwn wastraffu diwrnod arall wrth i ffigurau godi i’r lefel uchaf erioed.

“Yn anffodus, rhaid i ni dynnu’r cord argyfwng yn ddi-oed. Rhaid defnyddio’r amser y mae hyn yn ei brynu i adeiladu system brofi, olrhain, ynysu a chefnogi gadarn yng Nghymru, gyda sicrwydd ariannol digonol i fusnesau ac unigolion.

“Gweithredu nawr yw’r unig ffordd o fynd i’r afael ag ail don [ac osgoi] cyfnod hir o gloi.”

“Yn hytrach…”

Ar y llaw arall, mae’r Ceidwadwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i bwyllo a pheidio cyflwyno cyfnod clo arall.

Dywedodd eu Gweinidog Iechyd Cysgodol, Andrew RT Davies, ar Twitter:

“Yn hytrach na rhoi clo arall ar waith yng Nghymru dylai Llywodraeth Lafur Cymru warchod a chefnogi pobl sy’n agored i niwed, blaenoriaethu profion yn y meysydd sy’n peri problemau – ysbytai, cartrefi gofal, ffatrïoedd cig a phrifysgolion; a diogelu’r galwedigaethau sydd mewn perygl, gydag offer diogelu.”

.