Mae dyn wedi’i ddedfrydu i garchar am bum mlynedd a chwe mis yn Llys y Goron Abertawe heddiw wedi iddo bledio’n euog am achosi marwolaeth merch 21 oed drwy yrru’n ddiofal a dan ddylanwad alcohol.

Bydd rhaid i Gareth Entwhistle dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd dan glo.

Cafodd Miriam Briddon o Cross Inn, Cei Newydd ei lladd ar ôl i’w char gael ei daro gan gar Gareth Entwhistle ar yr A482 ger Ciliau Aeron ar 29 Mawrth 2014.

Rhybudd gan fam Miriam

“Ni wedi colli Miriam nawr. R’yn ni moyn i fe fynd i’r carchar. R’yn ni wedi colli Miriam ond bydd unrhyw faint o flynyddoedd mae e’n gael nawr ddim yn gwneud gwahaniaeth i’r sefyllfa. Gallai byth faddau iddo fe,” meddai mam Miriam, Ceinwen Briddon, wrth y BBC cyn yr achos.

“Mae’r neges yn un syml – rhaid i chi byth yfed a gyrru, byth mynd tu ôl i olwyn car pe bai chi wedi cael diod – dim hyd yn oed un.

“Mae canlyniad y peth yn hunllef – i ni’n dystiolaeth i hynny.”

Y gyrrwr wedi dangos “difaterwch llwyr”

“Yn anffodus, cafodd bywyd Miriam ei dorri’n fyr gan weithredoedd dyn oedd yn yfed a gyrru a ddangosodd difaterwch llwyr i eraill drwy fynd tu ôl i’r olwyn wedi meddwi,” meddai Rhingyll Heddlu’r Ffyrdd, Ian Price.

“Drwy yrru ar gyflymder amhriodol tra wedi meddwi, collodd Gareth Entwhistle reolaeth o’i gar ac aeth i’r lôn anghywir drwy geisio mynd o amgylch troad ar yr A482 yn agos i Felinfach, Ceredigion, gan wrthdaro â char Miriam a oedd wedi bod yn teithio yn y cyfeiriad cyferbyn.

“Roedd gan faint y gwrthdrawiad oblygiadau difrifol, gan achosi anafiadau marwol i Miriam.

“Mae taclo yfed a gyrru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu Dyfed Powys, mae’n gwbl annerbyniol a ni chaiff ei ganiatáu.”

Codi £32,000 at ysgoloriaeth Miriam

Yn ôl y teulu, mae’r gymuned leol wedi bod yn gefn mawr iddyn nhw ac mae dros £32,000 wedi ei gasglu ar gyfer ysgoloriaeth sydd wedi ei sefydlu yn enw Miriam.

Roedd Miriam Seren Wyn Briddon yn un o bedair chwaer ac yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin yn astudio tecstilau.

Bu’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi ac Ysgol Gynradd Talgarreg.