Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau Senedd Cymru, Mabon ap Gwynfor, a’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts wedi annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau clo lleol-iawn.

Maen nhw’n credu y byddai mesurau clo lleol-iawn yn cael gwell effaith ar ledaeniad cymunedol coronaferiws yng Ngwynedd, yn hytrach na chyflwyno cyfyngiadau ledled y sir.

“Rwyf o’r farn y byddai mesurau wedi’u targedu ac sy’n gosod cyfyngiadau ar gymunedau lle mae cynnydd yn nifer yr achosion a thystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol yn fwy effeithiol, ac y byddai’n caniatáu peth normalrwydd i eraill,” meddai  Mabon ap Gwynfor.

“Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau o’r math yma ar gyfer Llanelli.

“Dylent nawr weithio gyda’r awdurdodau ar lawr gwlad yng Ngwynedd sy’n gwybod beth sy’n digwydd yn ein cymunedau, a sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau yn y dyfodol yn gymesurol ac wedi’u targedu.”

Liz Saville Roberts yn pryderu am “unigrwydd a’r risg i iechyd meddwl preswylwyr”

Dywedodd Liz Saville Roberts: “Rwy’n apelio ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn ofalus iawn y defnydd o gyfyngiadau lleol iawn i reoli clystyrau Covid-19 yng Ngwynedd fel dull mwy cymesurol a rhesymegol o reoli’r firws.

“Er mwyn i hyn weithio’n iawn, rhaid i ni weld gwelliannau diriaethol a brys o ran profi ac olrhain fel y gellir ynysu achosion a gofnodwyd yn gyflym. Rhaid datrys hyn fel mater o frys.’

“Unigrwydd a’r risg i iechyd meddwl preswylwyr yw un o’r pryderon real iawn sydd gennyf ynglŷn â chyfyngiadau cyffredinol, a dylai Llywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o hyn wrth gynllunio unrhyw fesurau cloi yn y dyfodol.”