Mae Cymru wedi “arwain y ffordd” wrth ddarparu Technoleg Gwybodaeth a gwersi ar-lein i ddisgyblion yn ystod y pandemig yn ôl adroddiad newydd gafodd ei gyhoeddi heddiw (Hydref 9).
Yr adroddiad Education policy responses across the UK to the pandemic yw’r dadansoddiad manwl cyntaf sy’n cymharu sut yr oedd llywodraethau gwledydd y Deyrnas Unedig yn cefnogi addysg disgyblion yn ystod y pandemig y coronafeirws.
Mae’r adroddiad yn nodi fod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ddarparu gliniaduron a dyfeisiau Wi-Fi wrth fynd i’r afael â’r diffyg mynediad at ddysgu ar-lein.
Prydau ysgol: Ymatebion Cymru a’r Alban wedi bod yn fwy effeithiol
Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar brydau ysgol, gan ddod i’r casgliad bod ymatebion Cymru a’r Alban wedi bod yn fwy effeithiol, a hynny am iddynt gael eu darparu drwy awdurdodau lleol, a bod yn hyblyg yn ôl anghenion teuluoedd.
Ac mae adroddiad newydd gan Sefydliad Polisi Addysg hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael cymorth.
“Calonogol” – Kirsty Williams
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Mae’r adroddiad hwn yn ddiddorol tu hwnt, rwyf wedi dweud o’r blaen nad oedd canllaw ar gael ar sut i redeg system addysg yn ystod pandemig.
“Mae sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu deulu yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r argyfwng hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, felly mae’n galonogol iawn gweld y Sefydliad Polisi Addysg yn tynnu sylw at ein gwaith o ran darparu prydau ysgol am ddim a chefnogi dysgu ar-lein.”