Mae ymgyrch wedi cael ei sefydlu i godi cofeb i’r canwr Steve Strange o Borthcawl.
Bu farw canwr y band Visage ym mis Chwefror eleni.
Mae ei deulu’n gobeithio codi £30,000 ar gyfer y gofeb efydd a fydd yn cael ei chodi yn ei dref enedigol.
Y cerflunydd Nick Elphick fydd yn gyfrifol am greu’r gofeb.
Mae mam a chwaer Strange wedi sefydlu cronfa er cof amdano i godi arian at achosion da oedd yn bwysig iddo.
Bydd albwm olaf Visage, ‘Demons to Diamonds’ yn cael ei ryddhau ar Dachwedd 6, gyda’r holl elw’n mynd at y gronfa.
Boy George, un o gyfeillion Steve Strange, sydd wedi creu’r gwaith celf ar gyfer yr albwm.
Roedd yr albwm ar ei hanner pan fu farw’r canwr yn yr Aifft, ac fe aeth gweddill y band ati i orffen yr albwm yn dilyn ei farwolaeth.
Ddiwedd y mis hwn, fe fydd penwythnos o gerddoriaeth fyw ym Mhorthcawl er cof am Steve Strange, ac fe fydd Visage a China Crisis yn perfformio.
Bydd teyrnged i Steve Strange yng Nghanolfan y Mileniwm ar Dachwedd 22, ac fe fydd Boy George, Kim Wilde a Marc Almond yn cymryd rhan.
Mae modd cyfrannu at y gronfa drwy fynd i www.crowdfunding.justgiving.com/stevestrangestatue.