Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi beirniadu cyrff iechyd Cymru yn hallt am beidio â chydymffurfio â’r safonau iaith, gan ddweud bod angen “mwy o weithredu a llai o siarad”.

Wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw (dydd Iau, Hydref 1), dywedodd Aled Roberts fod nifer y cwynion yn erbyn y cyrff yma wedi cynyddu.

“Un peth sydd yn glir erbyn hyn ydy bod nifer y cwynion rydym ni’n eu derbyn o ran y gwasanaeth iechyd yn cynyddu,” meddai.

“Ac mae hynny’n adlewyrchiad, hwyrach, o lle yn union maen nhw arni.

“Mae rhai mewn sefyllfa gwell nag eraill.

“Ond dw i wedi cynnal cyfarfodydd efo bron pob un o’r penaethiaid erbyn hyn.

“Ac yn amlwg beth fuaswn i’n ei ddweud ydy bod yna lawer o ffordd iddyn nhw fynd.”

Daw’r sylwadau yn sgil lansiad ei adroddiad Cau’r Bwlch sy’n nodi bod rhai sefydliadau yng Nghymru yn well nag eraill wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Dydy’r adroddiad ddim yn nodi pa gyrff sydd “ddim cystal”, a doedd ei swyddfa ddim am ddatgelu enwau, ond yn dilyn sylwadau heddiw, mae lle cryf i gredu nad yw cyrff iechyd ymhlith y goreuon.

Neges gref

Roedd Aled Roberts yn ddi-flewyn-ar-dafod wrth siarad â’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, a Chyfathrebu, a doedd dim dal yn ôl wrth drafod goblygiadau’r methiannau yma i iechyd siaradwyr Cymraeg.

“Dw i’n meddwl ei bod hi erbyn hyn yn amser i’r Gwasanaeth Iechyd yn gyffredinol sylweddoli nad hawl o ran yr iaith sydd yn bwysig yma ond ein bod ni’n sylweddoli bod y gallu i gyflwyno gwasanaethau yn Gymraeg yn ganolog o ran ansawdd gofal nifer fawr iawn o bobol,” meddai.

“Bydded hynny’n bobol sydd yn byw efo dementia neu blant ifainc sydd ond yn medru’r un iaith.

“A dw i’n meddwl erbyn hyn, efo’r holl adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi ar hyd y blynyddoedd, erbyn hyn mi ddyle’n bod ni’n gweld mwy o weithredu a llai o siarad.”

Cyrff heb baratoi

Mae 122 o sefydliadau bellach dan Safonau’r Gymraeg ac felly’n gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg o’r un safon â’u gwasanaethau Saesneg.

Ac ers mis Mai 2019, mae cyrff iechyd, gan gynnwys byrddau iechyd Cymru, wedi bod ymhlith y sefydliadau yma. Doedd rhai o’r safonau ddim mewn grym i’r cyrff yma tan fis Tachwedd.

Yn siarad heddiw, dywedodd y Comisiynydd fod y “gwaith paratoi [ar gyfer mabwysiadu’r safonau] o fewn y sefydliadau iechyd ddim cystal â beth ddylai fo fod”.

Mae nifer o safonau heb fod yn weithredol yn ystod yr argyfwng covid-19, yn ôl y Comisiynydd.

“Mi oeddwn i’n awyddus ein bod ni ddim yn ychwanegu at y baich o ran yr awdurdodau iechyd,” meddai.