Dyw rhai cyrff cyhoeddus “ddim cystal” ag eraill wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg yn ei adroddiad diweddara’… ond ni fydd yn enwi’r cyrff rheiny sy’n methu cadw at y rheolau.
Mae 122 o sefydliadau bellach dan Safonau’r Gymraeg ac felly’n gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg o’r un safon a’u gwasanaethau Saesneg.
Ac ar ôl ymchwilio i’r mater, mae’r Comisiynydd Iaith wedi dod i’r casgliad bod sefydliadau yn gwella wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond bod rhai yn ymdrechu’n fwy nag eraill.
Mae ei adroddiad newydd, Cau’r Bwlch, yn cyfeirio at lu o sefydliadau, ond does dim sôn pa gyrff yn union sydd ddim yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg fel sy’n ofynnol.
Mae golwg360 wedi cael gwybod na fydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi enwau’r cyrff rheiny.
Canfyddiadau’r adroddiad
Mae adroddiad y Comisiynydd yn dangos:
- bod 92% o lythyrau neu e-byst Cymraeg wedi derbyn ateb yn Gymraeg;
- bod opsiynau awtomatig dros y ffôn ar gael yn Gymraeg 90% o’r amser;
- bod ffurflenni ar gael yn gyflawn yn Gymraeg 78% o’r amser;
- mai dim ond mewn 46% o ymweliadau derbynfa y cafwyd gwasanaeth Cymraeg;
- mai dim ond 55% o alwadau ffôn y llwyddodd sefydliadau i ddelio gyda hwy yn Gymraeg a rhoi ateb cyflawn yn Gymraeg.
“Mae yna risg fod bwlch yn tyfu rhwng y sefydliadau sydd yn perfformio’n dda a’r rhai sydd ddim cystal, ac mae angen i bob sefydliad gymryd eu cyfrifoldebau o ddifri,” meddai Aled Roberts.
“A hithau yn bedair blynedd ers i’r sefydliadau cyntaf ddod o dan safonau’r Gymraeg, mi fyddwn yn disgwyl i bob sefydliad gwrdd â’r gofynion bob tro.”
Awgrym o arfer da
Er nad yw’r Comisiynydd yn enwi cyrff sy’n methu darparu gwasanaeth Cymraeg, mae’n cynnig enghreifftiau o’r hyn allwn ei alw yn arfer da.
Mae’n tynnu sylw at ymdrechion uned gyfieithu Amgueddfa Cymru, ac yn dweud bod ei “chyfieithwyr yn deall yr angen i fod yn greadigol a chyfathrebu’n naturiol â’r cyhoedd.”
“Yn dilyn cwynion amrywiol” mae’n debyg bod y corff hwnnw hefyd wedi cyflwyno llu o newidiadau gan gynnwys:
- newid canllaw dylunio i sicrhau bod y Gymraeg yn fwy amlwg na’r Saesneg;
- a sicrhau bod modd siarad Cymraeg yn y caffi sy’n cael ei redeg gan drydydd parti, er nad yw’n dod dan y safonau.
Mae’r adroddiad yn nodi bod llu o gyrff wedi gwella eu gwasanaethau yn sgil ymchwiliadau a chwynion gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chyngor Rhondda Cynon Taf.