Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i Skye Roberts, merch 16 oed, sydd ar goll.
Gwelwyd hi ddiwethaf yng Nghwmgwili, Sir Gaerfyrddin ddoe (Medi 17), ond mae ei theulu a’r heddlu yn pryderu am ei lles.
Mae oddeutu pum troedfedd o daldra ac mae ganddi wallt hir sydd wedi ei liwio’n goch ar un ochr.
Credir ei bod yn gwisgo hwdi tywyll, a bod ganddi fag bach llwyd tywyll.
Yn ogystal â Sir Gaerfyrddin, mae ganddi gysylltiadau ag Amlwch yn Sir Fôn.
Gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â’r heddlu.