Mae Undeb Rygbi Cymru wedi lansio ymgyrch i recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer clybiau rygbi ledled Cymru.

Mae’r fenter, ‘Welsh Rugby Roots’, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â banc y NatWest, yn galw ar ddynion a merched o bob oedran i ddatblygu eu “gwreiddiau rygbi” a dod yn wirfoddolwyr clwb.

Bydd Undeb Rygbi Cymru yn mynd ati i ddod o hyd i rôl addas ar gyfer pawb sy’n rhoi eu henwau at yr achos, ac yn rhoi cyfleoedd hyfforddi iddyn nhw er mwyn eu paratoi at y rôl.

Cynnydd “anferthol” mewn plant yn chwarae rygbi

Mis Medi diwethaf fe wnaeth yr undeb gyflwyno swyddogion clybiau ysgol er mwyn cynyddu diddordeb mewn rygbi ac mae nifer y plant sy’n chwarae rygbi erbyn hyn – yn fechgyn ac yn ferched – wedi “codi’n anferthol”.

Rhan allweddol o’r strategaeth hon oedd cyfeirio chwaraewyr at glybiau rygbi gan helpu i gynnal clybiau yng Nghymru, ac fe gofrestrodd 2,000 o chwaraewyr newydd y llynedd i glybiau o’r ysgolion oedd yn cymryd rhan yn y fenter.

Mae’r Undeb am ehangu hyn er mwyn datblygu rheolwyr tîm, swyddogion cymorth cyntaf a gweinyddwyr yn enwedig i “sicrhau llwyddiant y strategaeth hon, meithrin chwaraewyr newydd a’u cadw o fewn y gêm”.

“Asgwrn cefn ein gêm”

“Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn ein gêm,” meddai cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies.

“Mae angen rheolwyr tîm, swyddogion cymorth cyntaf a gweinyddwyr clwb arnom er mwyn galluogi ein chwaraewyr ifanc i gyrraedd eu potensial llawn ac i gadw dyfodol rygbi clybiau yng Nghymru yn ddiogel.

“Rydym yn apelio at unrhyw un, p’un a ydyn nhw’n rhan o glwb ai beidio, i roi eu henwau ymlaen a byddwn yn dod o hyd i rôl iddyn nhw.”