Fe fydd Abertawe yn chwarae yn erbyn Spurs yn Stadiwm Liberty ddydd Sul – ac mae gan y tîm o Gymru record sâl gartref yn erbyn y clwb o Lundain.

Bu i’r Elyrch golli eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Spurs, sydd heb golli eto’r tymor hwn.

Gyda llwyddiant Tottenham o 4-1 yn erbyn Manchester City yn eu gêm gynghrair ddiwethaf, maen nhw’n teithio i Gymru yn llawn gobaith.