Fe fydd cyfres ddrama newydd ar gyfer pobl yn ei harddegau, sy’n sbin- off o gyfres Doctor Who, yn cael ei ffilmio yng Nghymru yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Fe fydd yr awdur Patrick Ness, awdur y llyfrau yn nhrioleg Chaos Walking a A Monster Calls, yn ysgrifennu am y tro cynta’ ar gyfer y sgrin fach wrth sgriptio Class.
Mae’r datganiad am y rhaglen yn dweud y bydd y ffilmio’n digwydd yma ac acw ng Nghymru a’r gyfres yn cael ei dangos ar BBC3.
‘Neb fel Ness’
Dywedodd cynhyrchydd y ddrama, Steven Moffat, “’Does neb cystal am bortreadu byd cyffrous pobl yn ei harddegau, nag Patrick Ness.”
Fe fydd y gyfres Class, yn cynnwys 8 pennod yn para 45 munud, a fydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Three y flwyddyn nesaf.
Fe gafodd y gwaith o ffilmio Dr Who ei symud i Gymru rai cyfresi’n ôl ac fe arweiniodd hynny at gyfresi eraill, fel Torchwood.
Dadl
Mae yna ddadl wedi codi tros y duedd hon, gyda rhai’n dadlau bod rhaglenni o’r tu allan yn cael eu gwneud ar draul rhai Cymreig ac eraill yn pwysleisio cyfraniad y cyfresi at y diwydiant teledu yng Nghymru.