Tyler Morgan - teimlo'r nerfau (Llun: Dreigiau Casnewydd Gwent)
Mae canolwr newydd Cymru Tyler Morgan wedi cyfaddef ei fod yn nerfus cyn yr ornest fawr yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn erbyn Fiji heddiw.
O holl chwaraewyr Cymru, ef sydd dan fwya’ o bwysau wrth fynd i geam a allai benderfynu tynged y wlad yn y bencampwriaeth.
Fe fydd y chwaraewr 20 oed yn dechrau yn y crys rhif 13 prynhawn yma – ychydig wythnosau ar ôl ennill ei gap cynta’ – oherwydd anafiadau i Scott Williams, Cory Allen a Jonathan Davies.
Fe allai ennill y gêm sicrhau lle Cymru yn rownd wyth ola’r Cwpan – yn sicr os bydd Awstralia’n curo Lloegr yn eu gêm nesa’ nhw ddydd Sadwrn.
Trafferth teithio
Ond mae rhai cefnogwyr sydd yn teithio i Gaerdydd ar gyfer y gêm heddiw hefyd yn debygol o wynebu trafferthion, wrth i streic fysus ddechrau am hanner nos dydd Iau.
Fe wrthododd undeb Unite gynnig diweddara’ Cardiff Bus ynglŷn â chyflogau, gan olygu streic am 48 awr a fydd hefyd yn effeithio gêm Seland Newydd a Georgia dydd Gwener.
Mae’r brifddinas eisoes wedi gweld tagfeydd sylweddol o gwmpas yr orsaf drenau mewn sawl gêm Gwpan y Byd gyda phobol yn aros oriau i ddal trenau.
Mae trefnwyr y gystadleuaeth bellach wedi dweud y bydd trenau ychwanegol a system giwio newydd yn cael eu trefnu ar gyfer gorsaf Caerdydd Canolog, yn ogystal â rhagor o wasanaethau parcio a theithio.