Cefnogwyr rygbi Cymru
Mae towtiaid sydd yn gwerthu tocynnau ar gyfer gemau Cwpan Rygbi’r Byd am grocbris yn amddifadu cefnogwyr go iawn o’r cyfle i fynd i wylio’u tîm, yn ôl y dyn sydd yn gyfrifol am drefnu’r gystadleuaeth.
Dywedodd cyfarwyddwr y twrnament, Steve Brown, wrth raglen Y Byd Ar Bedwar y byddai bywydau cefnogwyr “wedi bod llawer yn haws” petai’r un deddfau ynglŷn â thocynnau wedi cael eu cyflwyno a gafodd ei wneud adeg Gemau Olympaidd Llundain.
Nos Fawrth fe fydd y rhaglen materion cyfoes yn edrych ar fater y towts tocynnau, oedd i’w canfod yn eu niferoedd cyn gêm Cymru v Lloegr yn Twickenham dydd Sadwrn.
Mae cefnogwyr hefyd wedi beirniadu’r drefn o werthu tocynnau, gan ddweud bod rhaid i gefnogwyr wylio’r gemau ar y teledu am eu bod yn rhy ddrud.
‘Mae’r peth yn jôc’
Roedd Alex, brawd canolwr Cymru Scott Williams, yn un o’r rheiny fu’n gwylio buddugoliaeth Cymru yn erbyn y Saeson yng Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.
“Dw i’n meddwl bod angen dod a phrisiau tocynnau i lawr fel bod bois a merched mewn clybiau fel hyn yn gallu mynd i wylio’r bechgyn yn chwarae ar y llwyfan mawr,” meddai.
Yn ôl ei gyd-chwaraewr Dyfed Morgan, mae angen rheolau llymach i gosbi towtiaid sydd yn prynu tocynnau ac yna’u gwerthu am bris llawer uwch na’u gwerth gwreiddiol.
“Mae angen iddyn nhw stopio’r busnes ‘na yn gyfan gwbl,” meddai Dyfed Morgan. “Os chi’n prynu tocyn, fe ddylech chi ddefnyddio fe eich hunan. Mae pasio fe ‘mlaen a gwneud elw mas ohono fe jyst yn jôc.”
Canfod towt
Dyw ailwerthu tocynnau Cwpan Rygbi’r Byd ddim wedi’i wahardd yn gyfreithiol, fel yr oedd yng Ngemau Olympaidd 2012, ond mae yn erbyn rheolau’r twrnament.
Serch hynny, daeth newyddiadurwr rhaglen Y Byd Ar Bedwar ar draws dyn oedd wedi cytuno i werthu tocyn ar gyfer gêm Cymru v Wrwgwai gwerth £160 iddyn nhw am £350, dros ddwbl y pris.
Ar y we mae tocynnau yn mynd am hyd yn oed mwy na hynny, gyda rhai gwefannau yn hysbysebu tocynnau gwerth £150 ar gyfer y ffeinal am dros £1,000.
Mae AS Rhondda Chris Bryant ac AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth eisoes ymysg y gwleidyddion sydd wedi galw ar y llywodraeth i newid y deddfau hynny er mwyn taclo’r towtiaid.
“Rydyn ni’n gwybod fel ffaith bod towtiaid yn gwerthu tocynnau yma,” meddai Steve Brown, cyfarwyddwr y twrnament. “Mae gennym ni bresenoldeb heddlu ychwanegol yn y gemau mawr er mwyn helpu ni i ddelio â hynny.”
Fe fydd Y Byd ar Bedwar: Taclo’r towts yn cael ei darlledu heno am 8.25yh ar S4C.