Mae Alex Cuthbert nôl ar yr asgell (llun: David Davies/PA)
Mae Alex Cuthbert, Tyler Morgan a Matthew Morgan wedi cael eu dewis yn nhîm Cymru i wynebu Fiji dydd Iau wrth i Warren Gatland orfod gwneud newidiadau i ddygymod â’r anafiadau cynyddol i’r garfan.
Bydd Matthew Morgan yn cymryd lle Liam Williams fel cefnwr, gydag Alex Cuthbert yn camu i esgidiau Hallam Amos ar yr asgell a Tyler Morgan yn ymuno â Jamie Roberts yn y canol yn lle Scott Williams.
Does dim newid ymysg y blaenwyr, wrth i Gatland ddewis yr un pac a ddechreuodd yn erbyn Lloegr.
Dim ond un newid sydd i’r fainc hefyd, gyda James Hook yn cael ei enwi diwrnod yn unig ar ôl ymuno â’r garfan.
Delio ag anafiadau
Er i Gymru sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Lloegr dydd Sadwrn, maen nhw’n dal i gyfrif cost yr anafiadau i rai o’u prif chwaraewyr.
Cafodd Scott Williams, Hallam Amos a Liam Williams eu cludo o’r maes yn Twickenham, gan ychwanegu ar restr o anafiadau sydd eisoes yn cynnwys Leigh Halfpenny, Rhys Webb, Cory Allen, Eli Walker a Jonathan Davies.
O’r rheiny, Liam Williams yw’r unig un sydd dal yng ngharfan Cymru a hynny ar ôl dioddef o gyfergyd.
James Hook a Gareth Anscombe yw’r diweddaraf i gael eu galw i’r garfan, ac mae Hook wedi cael ei gynnwys ar y fainc ar gyfer yr ornest yn erbyn Fiji, fydd heb eu cawr o asgellwr Nemani Nadolo oherwydd gwaharddiad.
50 cap
Fe fydd Dan Lydiate a Taulupe Faletau yn ennill eu 50fed cap dros Gymru yn erbyn Fiji ymhen deuddydd, ac mae Warren Gatland wedi gofyn am ragor o’r un peth gan ei dîm.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n adeiladu ar lwyddiant a momentwm penwythnos diwethaf a mynd a hwnnw mewn i gêm dydd Iau,” meddai hyfforddwr Cymru.
“Mae Fiji wedi perfformio’n dda yn eu dwy gêm agoriadol nhw [yn erbyn Lloegr ac Awstralia] ac fe fyddan nhw’n dod i Gaerdydd yn edrych i adeiladu ar hynny.
“Rydyn ni wedi gwneud tri newid oherwydd anafiadau ond yn mynd i’r gêm yma gyda thîm cryf. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Stadiwm y Mileniwm dydd Iau a chael y dorf tu cefn i ni mewn gêm Gwpan y Byd pwysig.”
Tîm Cymru: Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Tomas Francis, Alun Wyn Jones, Bradley Davies, Dan Lydiate, Sam Warburton, Taulupe Faletau; Gareth Davies, Dan Biggar, George North, Jamie Roberts, Tyler Morgan, Alex Cuthbert, Matthew Morgan
Eilyddion Cymru: Ken Owens, Aaron Jarvis, Samson Lee, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook