Mae Josh Matavesi wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch fydd yn para nes 2018.
Ar hyn o bryd mae’r canolwr i ffwrdd gyda charfan Fiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd, ac fe allai fod yn rhan o’r tîm fydd yn wynebu Cymru dydd Iau.
Fe arwyddodd Matavesi i’r Gweilch yn 2014 ac yn ei dymor cyntaf fe sefydlodd ei hun yng nghanol cae’r Gweilch, gan chwarae 29 o weithiau.
“Roedd e’n benderfyniad hawdd,” meddai Matavesi ar ôl arwyddo’r cytundeb.
“Fe wnes i fwynhau fy rygbi tymor diwethaf ac mae fy nheulu yn hapus ac wedi setlo yma, felly penderfynu aros gyda’r Gweilch oedd y peth iawn i’w wneud.
“Rydyn ni wrth ein boddau yma. Rydyn ni wedi setlo’n dda, mae fy merch i yn yr ysgol nawr ac mae hi’n hapus a dyna beth sy’n bwysig wrth wneud penderfyniadau fel hyn.”