Mae Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod yn dechrau ar ei swydd heddiw.

Mae’r penodiad yn dod yn sgil cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a oedd yn cynnwys penodi Cynghorydd Cenedlaethol i Gymru.

Rhan o rôl y Cynghorydd bydd cydweithio â’r rhai sy’n dioddef ac wedi goroesi trais i sicrhau gwelliannau o ran cynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau.

Bydd hefyd yn rhannu arferion da ac yn rhoi cyngor i Weinidogion o ran lleihau effaith y troseddau hyn gan sicrhau na fyddan nhw’n digwydd mor aml.

Mae Rhian Bowen-Davies yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwr Calan DVS, sef canolfan i fenywod sydd wedi dioddef trais domestig. Bu hefyd yn swyddog gyda Heddlu De Cymru, gan gymhwyso fel Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol.

‘Gwella cysondeb ac ansawdd’

Mae Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru wedi croesawu Rhian Bowen-Davies ar ei diwrnod cyntaf yn ei swydd.

“Mae arbenigedd Rhian ym maes trais yn erbyn menywod a’i sgiliau arwain a chyfathrebu cryf yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon,” meddai Leighton Andrews.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â hi wrth inni fwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth arloesol hon.”

Dywedodd Rhian Bowen-Davies: “Rwy’n edrych ymlaen at gyflawni fy rôl fel Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru, gan sicrhau gwelliannau ledled Cymru… a gwella cysondeb ac ansawdd gwasanaethau i’r holl unigolion a theuluoedd sy’n dioddef trais a cham-drin.

“Mae’r Ddeddf yn dangos ymrwymiad Cymru i fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid a goroeswyr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yma yng Nghymru.”