Edwina Hart
Mae darn newydd o ffordd Blaenau’r Cymoedd yn cael ei agor yn swyddogol heddiw gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.

Mae £158 miliwn wedi’i wario ar y darn hwn o’r ffordd sy’n ymestyn o Fryn-mawr i Dredegar.

Mae’r gwaith yn cynnwys lledu’r ffordd tair lôn gan greu ffordd ddeuol – er mwyn lleihau tagfeydd traffig, gwella’r diogelwch a’r amser teithio.

Yn y gorffennol, mae’r ffordd hon wedi bod yn beryglus iawn am fod rhannau cudd ynddi sydd wedi achosi damweiniau.

“Bydd deuoli’r ffordd hon yn ei gwneud yn fwy diogel i bawb ei defnyddio,” meddai Edwina Hart.

Adfywio’r Cymoedd

Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect ehangach gwerth £800 miliwn i ddeuoli ffordd Blaenau’r Cymoedd – sef yr A465 o’r Fenni i Hirwaun.

Bydd hyn yn rhoi hwb i economi’r ardal ac yn adfywio rhan o Gymoedd De Cymru am fod yr A465 “yn brif gyswllt rhwng y Gorllewin a Chanolbarth Lloegr,” yn ôl Edwina Hart.

“Mae ffordd Blaenau’r Cymoedd yn hanfodol i’n huchelgais i adfywio’r ardal drwy leihau amser teithio a gwella’r swyddi a’r gwasanaethau sydd ar gael,” meddai.

Mae’r ffordd yn ymestyn o’r gogledd o gylchfan yr A465 ym Mryn-mawr ac yn ymuno â rhan o’r A465 sydd eisoes wedi’i wella’n uniongyrchol i’r gorllewin o gyffordd Nantybwch yn Nhredegar.

Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu 5 cilometr o lwybr beicio, man gorffwyso yn Garn Lydan ynghyd â mwy o le i barcio a mannau gwylio i gyfeiriad Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r cynllun wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, ac mae disgwyl i rannau eraill o’r ffordd gael eu cwblhau erbyn 2020.