Mae arolwg barn YouGov a gafodd ei gomisiynu gan YesCymru yn dangos y byddai tua thraean o bobl Cymru yn pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yn cael ei gynnal yfory.
Dyma’r ail arolwg i nodi y byddai traean o bobol Cymru’n pleidleisio dros annibyniaeth, yn dilyn pôl piniwn fis Mehefin lle’r oedd 33% yn cefnogi annibyniaeth.
Dywedodd 46% o bobol rhwng 16 a 24 y tro hwn y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth.
“Mae hynny’n gynnydd sylweddol ers rhai blynyddoedd yn ôl,” meddai Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru.
“Mae’n dangos hefyd fod cefnogaeth i annibyniaeth yn y prif lif ac yn drawsbleidiol, gyda 42% o’r rhai a bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn 2019 yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yfory.
“Mae twf cynyddol i’r gefnogaeth dros annibyniaeth ar draws Cymru, sy’n amrywio o 26% yn y de ddwyrain i 37% yn y de orllewin. Mae hwn yn fater sy’n cyffroi pobl ar draws Cymru.
“Mae’n galonogol gweld hefyd bod y cenedlaethau iau yn gweld nad yw San Steffan yn gweithio, a bod Cymru well yn bosibl.”
Dilyn esiampl yr Alban?
Mae Siôn Jobbins hefyd yn credu y byddai cefnogaeth dros annibyniaeth yng Nghymru’n cynyddu pe bai’r Alban yn gadael y Deyrnas Unedig.
“Gyda’r arolygon barn ddiweddaraf yn yr Alban yn awgrymu cefnogaeth o 55% dros annibyniaeth, mae angen i bobl Cymru feddwl beth ddylai ddigwydd i Gymru pan fydd yr Alban wedi ennill annibyniaeth oddi wrth San Steffan – gallwn ni ond gredu y bydd cefnogaeth i Gymru annibynnol yn uwch bryd hynny,” meddai.