Rhodri Talfan Davies
Bydd Cyfarwyddwr BBC Cymru yn rhoi araith i arweinwyr busnes y gogledd heno gan ddweud bod y rhaglenni Real North Wales yn ‘ddatganiad o fwriad clir’ i adlewyrchu gogledd Cymru’n well ar ei allbwn.

Bydd Rhodri Talfan Davies yn annerch Clwb Busnes Gogledd Cymru i nodi 80 mlynedd o ddarlledu’r BBC o Fangor.

Yn ôl y BBC, roedd tymor arbennig o raglenni am y gogledd, Real North Wales a gafodd eu dangos ym mis Mehefin wedi denu 1.3 miliwn o wylwyr.

Dyma oedd tymor mwyaf poblogaidd BBC Cymru yn y blynyddoedd diwethaf o ran cyrhaeddiad cynulleidfa.

‘Adlewyrchu Cymru fel y mae’ 

“Mae’r nod yr ydym wedi’i osod i ni’n hunain yn syml: adlewyrchu Cymru fel y mae mewn gwirionedd. Heb ei farneisio ac yn ei holl amrywiaeth,” meddai Rhodri Talfan Davies.

“Nid Cymru ein dychymyg nac o orffennol delfrydol – ond Cymru heddiw.”

Yn ôl y gorfforaeth, mae BBC Cymru wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol am ‘ganolbwyntio gormod ar y de’, felly mae’r cyfarwyddwr am sicrhau pobl bod “bywydau a brwdfrydedd yr ardal yn cael lle canolog yn ein cynnyrch”.

Dywedodd bod tua 100 o newyddiadurwyr a chynhyrchwyr rhaglenni yn gweithio ar draws y gogledd, ac mae tua hanner holl staff BBC Radio Cymru yn gweithio o Fangor.

 

‘Cefnogaeth y cyhoedd yn gryf’

Yn ei araith bydd Talfan Davies hefyd yn rhybuddio bod gormod o’r ddadl gyfredol am ddyfodol y BBC, sy’n rhan o adolygiad Llywodraeth y DU o Siarter Frenhinol y gorfforaeth, yn anwybyddu llais y cyhoedd.

“Mae gormod o’r sylw rwyf yn ei ddarllen mewn papurau newydd yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod cefnogaeth i’r BBC, i ffi’r drwydded ac i fathau eraill o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, yn dirywio.

“Dyw hynny ddim yn wir. Mae cefnogaeth y cyhoedd yn gryf ac yn tyfu’n gryfach. Nid yw’r cyhoedd yn credu ein bod yn berffaith – ac maent yn iawn – ond maen nhw’n gwybod ein bod ar eu hochr nhw.

“Yn fwy na hynny. Mae’r dybiaeth y byddai’r ddadl dros ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru a Phrydain yn lleihau’n gynyddol wrth i ddewisiadau gynyddu wedi troi allan i fod yn ffug,” meddai.