Ghazalaw
Fe fydd cynnyrch tair blynedd o gydweithio rhwng cerddorion o Gymru ac India yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener (Medi 25), wrth i’r grŵp Ghazalaw ryddhau eu halbwm gyntaf.

Cafodd y grŵp gwerin ei ffurfio yn 2012 ar ôl i Gwyneth Glyn a Tauseef Akhtar o ddinas Mumbai ddod at ei gilydd am y tro cyntaf yn y Tŷ Crwn ym Mro Morgannwg i arbrofi gyda chaneuon serch y ddau draddodiad cenedlaethol.

Dywedodd Gwyneth Glyn wrth Golwg360: “Dechreuodd y cywaith ’ma trwy mod i a Tauseef yn iste hefo’n gilydd o flaen y tân yn y Tŷ Crwn, ac o’n ni’n rhannu barddoniaeth a cherddoriaeth hefo’n gilydd.

“Bydde fo’n canu neu gyfieithu ychydig o benillion o ghazal ac wedyn, fydde hynna’n fy atgoffa i o ryw alaw werin neu o ryw hen bennill.

“Mewn ffordd, roedden nhw’n dueddol o adlewyrchu’i gilydd.”

Y grŵp

Mae cerddoriaeth Tauseef Akhtar wedi’i gwreiddio yn nhraddodiad y ghazal, wedi iddo ddysgu gan un o feistri’r genre, Jagjit Singh, sy’n cael ei adnabod fel ‘Brenin y Ghazal’.

Bellach, fe ymunodd Georgia Ruth Williams â’r deuawd, ynghyd ag Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das i ffurfio un o grwpiau gwerin mwyaf cyffrous y byd cerddoriaeth Gymraeg cyfoes.

Mae Ghazalaw wedi perfformio ym Mumbai, Delhi, Kolkata, Chennai, yng ngŵyl WOMEX yng Nghaerdydd ac fel rhan o daith Gorwelion.

Dywed Gwyneth Glyn wrth Golwg360 fod Ghazalaw wedi cael croeso cynnes yng Nghymru ac yn India.

“Mae’r derbyniad hyd yma wedi bod yn ysgubol. Maen nhw wedi cofleidio’r cywaith yn gyfangwbl.

“Mae’r gynulleidfa ghazal yn gynulleidfa eitha’ traddodiadol ac ysgolheigaidd. Mae’n genre eithaf uchel ael yn India felly roedd o’n syndod i mi, ond yn braf iawn, eu bod nhw mor agored i’w gyfuno fo efo’r canu gwerin.

“Mae’n braf iawn fod y Cymry’n agored iawn i’r plethiad yma hefyd. Dydy’r rhain ddim yn offerynnau ’dan ni’n eu clywed yng Nghymru yn aml iawn, ac eto maen nhw’n plethu mewn ffordd sy’n taro’r glust yn eitha’ braf. Dan ni’n gobeithio y bydd y derbyniad gwresog yma’n parhau.”

Albwm newydd

Drwy nawdd y Cyngor Celfyddydau ac Air India, mae’r grŵp wedi dychwelyd i fan cyfarfod gwreiddiol Tauseef a Gwyneth i recordio’u halbwm gyntaf, ‘Ghazalaw’. Mae’n cael ei rhyddhau ar label Cerys Matthews, ‘Marvels of the Universe’ ac wedi’i chyd-gynhyrchu gan Theatr Mwldan.

Mae’r albwm eisoes wedi derbyn cryn glod gan Cerys Matthews, sy’n dweud mai ‘Ghazalaw’ yw’r “albwm draws-ddiwylliannol orau rwyf wedi ei chlywed eleni, efallai’r albwm newydd orau oll”.

Mae hi’n disgrifio’r label ‘Marvels of the Universe’ fel “label ar gyfer recordiau trawiadol, unigryw”.

Cyswllt traws-ddiwylliannol

Dydy cerddoriaeth Gymraeg ac Indiaidd ddim yn bartneriaeth amlwg ar yr olwg gyntaf, ond mae gan y ddau draddodiad yr iaith Sanskrit yn gyffredin.

Ychwanegodd Gwyneth Glyn: “Mae o bendant y tro cyntaf i’r peth ddigwydd. Dwi ddim yn meddwl bod ghazal erioed wedi cael ei gyfuno efo rhyw ddiwylliant arall o’r blaen.

“Ond dydy hynna ddim i feddwl na fedar canu gwerin Cymreig gael ei gyfuno efo diwylliannau eraill chwaith. Wrth gwrs, mae canu serch yn thema byd eang ac oesol.”

Taith yng Nghymru

Ar ôl rhyddhau’r albwm, bydd Ghazalaw yn mynd ar daith i bedwar ban Cymru, a honno’n dechrau ar Dachwedd 7 yn Aberteifi, ac yn gorffen ar Dachwedd 19 ym Mhwllheli.

Wrth edrych ymlaen at y daith, dywedodd Gwyneth Glyn wrth Golwg360: “Dydy’r cerddorion yma ddim yn dod draw o India’n aml iawn. Mae’n gyfle unigryw i glywed y cywaith yn fyw.

“’Dan ni’n ffodus iawn i gael cefnogaeth Kizzy Crawford ar y daith, gan ei bod hi’n artist sy’n mynd o nerth i nerth.

“Mae gyda ni ambell gig yn Lloegr hefyd o flaen cynulleidfa fwy traddodiadol sy’n digwydd yng nghyd-destun taith Tauseef, felly mi fydd hi’n gyffrous cael estyn allan i’r gynulleidfa Indiaidd.”

Ond cyn iddi droi ei sylw at y daith, mi fydd Gwyneth Glyn yn cefnogi’r cerddor o Senegal, Seckou Keita ar ei daith yntau yn Lloegr, a hynny ar ôl iddyn nhw ymddangos yn Galeri, Caernarfon ar Hydref 2.

Manylion taith Ghazalaw

Theatr Mwldan, Aberteifi, Tachwedd 7

Canolfan Celfyddydau’r Taliesin, Abertawe, Tachwedd 8

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, Tachwedd 12

Y Tabernacl, Machynlleth, Tachwedd 13

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd, Tachwedd 15

Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Tachwedd 19

Stori: Alun Rhys Chivers