Fe fydd newidiadau mewn trethi yn gwneud niwed i tua 100 o gwmnïau bragu cwrw yng Nghymru – un o lwyddiannau busnes mawr y blynyddoedd diwetha’.
Dyna’r rhybudd wrth i’r Llywodraeth yn Llundain gynllunio i newid y Rhyddad Bragdai Bach – lwfansau sydd wedi ysgafnhau’r baich trethi ar y bragdai lleia’ a mwya’ newydd.
Dyna’r rhai sy’n dueddol o arbenigo mewn cwrw crefft ac fe fydd y newidiadau’n gwneud drwg i fragdai sy’n cynhyrchu rhwng tua 369,000 a thua 880,000 o beintiau o gwrw bob blwyddyn.
‘Cam yn ôl’
Mae’r newid yn “gam mawr yn ôl,” meddai Myrddin ap Dafydd, un o sylfaenwyr cwmni Cwrw Llŷn, sy’n gweithio o fragdy yn Nefyn.
“Mae gan Gymru fwy o fragdai bach annibynnol y pen na’r un wlad arall yn y byd. Mae yna enw gwych i Gwrw Cymru ac mae’n rhan o’r profiad o fyw yma ac ymweld â hi.”
Mae’n beio’r bragdai mawr a’r cwmnïau tafarndai mawr sy’n agos at y Torïaid am lobïo i gael gwared ar y rhyddhad, gan bwysleisio bod safonau cynhyrchu’r bragdai crefft annibynnol yn llawer uwch.
Yr enghraifft y mae’n ei roi yw fod Cwrw Llŷn yn defnyddio gwerth rhwng ceiniog a dwy geiniog o hopys ym mhob peint tra bod cwmnïau mawr yn defnyddio llawer llai – ac un cwmni mawr yn defnyddio cyn lleied â gwerth ceiniog ym mhob 1,000 o lager.
Gwahaniaeth arall yw’r defnydd o gemegau fel sylffwr – mae rhai o’r rheiny wedi eu gwahardd yng ngwledydd Ewrop.
“Mae hyn i gyd yn arwydd arall bod llywodraeth Llundain yn fodlon gostwng safonau bwyd a chynnyrch er mwyn eu budd eu hunain,” meddai Myrddin ap Dafydd.
Corff ar y cyd i’r bragdai bach?
Mae corff sy’n cynrychioli bragdai bach gwledydd Prydain yn dweud bod y newid yn “siom fawr” ond, yn ôl y Llywodraeth, y bwriad yw annog bragdai i symud ymlaen i gynhyrchu mwy.
Un ateb sydd wedi ei awgrymu yng Nghymru yw fod Llywodraeth Cymru’n creu corff lle bydd bragdai bach yn gallu cydweithio i brynu cynhwysion fel haidd a chael pris gwell wrth wneud.