Roedd methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i baratoi ar gyfer effaith economaidd y pandemig yn “syfrdanol”, meddai pwyllgor dylanwadol yn San Steffan.

Roedden nhw hefyd wedi methu paratoi mewn pryd ar gyfer cau ysgolion, meddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sy’n cynnwys aelodau ar draws y pleidiau.

Roedd ymateb economaidd y Llywodraeth wedi cael ei ruthro ac wedi esgeuluso sectorau cyfan, yn ôl adroddiad y Pwyllgor a gafodd ei cyhoeddi heddiw.

Mae’n rhybuddio y gallai’r diffyg gael effaith tymor hir ar yr economi – a nhwthau wedi ei gadael hi tan ychydig ddyddiau cyn y cyfnod clo cyn penderfynu ar gynlluniau cymorth. Roedd hynny fis a hanner ers yr achos cynta’ yn Lloegr.

Addysg – dim cynllun

Mae’r feirniadaeth ynghylch ysgolion yn debyg – er fod cau ysgolion wedi ei ragweld, meddai’r Pwyllgor, doedd dim cynllun ar gyfer cynnal addysg i blant.

“Mae angen i’r Llywodraeth fynd ati nawr i bwyso a mesur yn onest, gan ddysgu, a newid cyfeiriad yn gyflym os oes angen,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, yr AS Llafur Meg Hillier.

“Rhaid i ni gael sicrwydd bod yna feddwl o ddifri ynghylch rheoli ail don. Nid math o gystadleuaeth yw hyn – mae bywydau a bywoliaeth ein cenedl yn y fantol.”

Mae’r adroddiad hefyd yn feirniadol am ddiffyg paratoi ar gyfer darparu offer diogelwch a thros brofi ac olrhain.

Y Llywodraeth yn amddiffyn ei hymateb

Mae’r Llywodraeth wedi amddiffyn eu record gan nodi’r symiau anferth o arian sydd wedi eu neilltuo ar gyfer yr economi ac addysg a phwysleisio eu bod yn profi eu cynlluniau pandemig yn gyson er mwyn gallu “ymateb yn gyflym i’r argyfwng digynsail yma a gwarchod y Gwasaneth Iechyd”.