Mae swyddog carchar wedi derbyn dedfryd ohiriedig wedi i luniau ddod i’r fei ohoni hi’n cwtsio carcharor.

Am chwe wythnos roedd Gemma Brean, 35, mewn perthynas â Stuart Mark Davies, dyn a dderbyniodd dedfryd am werthu cyffuriau a charcharor yr oedd hi’n gyfrifol amdano.

Heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 23), clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y fam wedi cwrdd â’r carcharor tra’r oedd hi’n gweithio yng ngharchar Prescoed yn Sir Fynwy.

Mae’r carchar yn un agored, ac wnaeth hi drefnu i gwrdd ag e pan oedd yn cael gadael y carchar i ymweld â’i gartref.

Mae Gemma Brean, o Gwm yng Nglyn Ebwy, wedi derbyn dedfryd carchar wyth mis o hyd, wedi ei ohirio am 18 mis. Bydd yn rhaid iddi wisgo tag, a dilyn cyrffiw.

Cefndir

Cafodd y berthynas ei datgelu pan wnaeth cyn-wraig Stuart Mark Davies ddod o hyd i lun ar-lein o’r ddau yn cwtsio. Clywodd y carchar am y llun yn sgil hyn.

Cafodd Gemma Brean, mam i ddau, ei diarddel o’i swydd ac yna ei harestio gan yr heddlu.

Yn y pendraw, bu iddi ymddiswyddo, ac mi blediodd yn euog o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Yn ôl yr amddiffynnydd, Nicholas Gedge, roedd lle i gredu bod y ddynes yn “dangos empathi wrth reddf”, ac roedd hi’n derbyn ei bod “o bosib wedi bod yn rhy gyfeillgar â charcharorion”.

“Mi weloch chi’r rhybuddion ond wnaethoch chi eu hanwybyddu,” meddai’r barnwr Michael Fitton.

“Wnaethoch chi ddiweddu fyny yn plymio’n rhy ddwfn i sefyllfa roeddech chi’n methu delio â hi.”