Fe fydd bwrdd iechyd y gogledd yn gorfod talu £37m i ddau blentyn oedd wedi dioddef cyflyrau a fydd yn eu heffeithio am weddill eu bywydau yn dilyn genedigaethau trawmatig.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dod i gytundeb yn y ddau achos o esgeulustod meddygol sydd wedi dod gerbron yr Uchel Lys yn yr wythnosau diwethaf ar ôl i’r ddau unigolyn ifanc ddioddef parlys yr ymennydd.
Y mis hwn, fe wnaeth cyfreithwyr gytuno ar iawndal o £20m i blentyn a ddioddefodd anafiadau difrifol wedi i un o greithiau’r fam – o doriad Cesaraidd genedigaeth gynt – rwygo yn ystod yr enedigaeth.
Mae’r plentyn, sydd bellach yn ei arddegau, yn methu byw yn llwyr annibynnol a gydag anawsterau difrifol wrth symud o gwmpas. Daw’r setliad yn sgil brwydr gyfreithiol saith blynedd o hyd.
Mae’r Bwrdd hefyd wedi cytuno i dalu £17m i ferch ifanc a ddioddefodd parlys yr ymennydd yn sgil oedi yn ystod ei genedigaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ymddiheuriadau
Fis diwetha’ fe wnaeth Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth y bwrdd, ymddiheuro am driniaeth y ferch honno.
A’r mis hwn mae wedi ymddiheuro hefyd am driniaeth y plentyn arall: “Gobeithiwn bydd y setliad yn darparu’r cymorth mae’r [unigolyn a’i deulu] eu hangen yn y dyfodol.”
Bydd yr arian a fydd yn cael ei dalu yn mynd tuag at ofal, gwaith therapi, offer cymorth; ac at addasiadau cartref a thrafnidiaeth.