Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi gorchymyn gwasgaru yn Ynys y Barri ar ôl i nifer fawr o bobl ifanc ymgynnull yno ddydd Mercher (Gorffennaf 22).
Mae’r heddlu wedi cael pwerau ychwanegol i ddelio gydag adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau yno ddoe.
Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi cael eu galw i nifer o ddigwyddiadau nos Fercher a bydd rhagor o swyddogion ar ddyletswydd er mwyn delio gydag unrhyw achosion sy’n codi.
Mae gorchymyn gwasgaru yn rhoi’r hawl i’r heddlu atal rhywun rhag mynd i ardal benodol am hyd at 48 awr drwy roi rhybudd ysgrifenedig.