Mi allai Dinbych gael ei “bywiogi” trwy osod ‘sustem un ffordd’ yno, yn ôl cynghorydd sir sy’n cynrychioli’r dref.

Mae Cyngor Sir Dinbych yn ystyried cyflwyno’r newidiadau yn Stryd y Dyffryn, Lon Sowter, a’r Stryd Fawr, ac mae wrthi’n ymgynghori â phobol leol ar y mater.

Ond mae’r cynlluniau wedi ennyn cryn wrthwynebiad, a hyd yma mae dros 1,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn eu herbyn.

Trwy gau rhannau o’r strydoedd yma, byddai gwagle’n cael ei greu fel bod modd i bobol bellhau’n gymdeithasol. Ac mae Glenn Swingler yn rhagweld y bydd posibiliadau eraill.

“Dw i’n gweld yr holl bethau allwn ni wneud yn y gwagle yna,” meddai cynrychiolydd ward Dinbych Uchaf a Henllan wrth golwg360.

“Rydym yn trio cael pobol allan o’u ceir. Rydym yn trio cael pobol i gerdded mwy, ac i seiclo.

“Mae’n rhaid i ni feddwl am Covid-19 ar hyn o bryd, wrth gwrs…. Ond ar ben draw hynny, dw i’n gweld y potensial o’r pethau allwn ni wneud yn y Stryd Fawr â’r gofod y byddem yn ei greu.”

Mae’n credu y byddai modd cynnal mwy o ddigwyddiadau ar y stryd fawr, gan gynnwys ffeiriau bwyd, a byddai hefyd modd i gaffis osod byrddau tu allan.

Byddai hyn i gyd, meddai, yn cadw pobol yn y dre, ac mae’n dweud ei  fod “cant y cant” o blaid y newidiadau arfaethedig.

Mae yntau’n teimlo nad oes digon o le i bellhau yn gymdeithasol ar hyn o bryd, ac mae’n dadlau y byddai’r cynlluniau ond yn ychwanegu rhyw “7 munud” i deithiau ceir trwy ganol y dre.

Gwrthwynebiad

Hyd yma mae 1,132 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau.

Mae’r ddeiseb yn dweud y byddai cerbydau mawr yn cael eu “gorfodi” i lawr strydoedd cul, ac y byddai’r newidiadau yn “niweidiol” i fusnesau a phobol leol.

Mae yna bryderon y bydd y strydoedd yn orlawn, ac mae rhai’n dadlau bod yna ddigon o le ar gyfer pellhau cymdeithasol ar hyn o bryd.