Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi galwadau undeb nyrsio i gynnal ymchwiliad i ddarganfod pam fod rhai profion Covid-19 yn cael eu prosesu’n arafach nag eraill.

Yn ôl yr Aelod o’r Senedd Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y blaid, mae’r system o brosesu profion Covid-19 yn “fethiant llwyr”.

Yn ôl adroddiadau heddiw (Gorffennaf 23) roedd mwy na dwy ran o dair o ganlyniadau profion gan unedau profi cymunedol (CTU) wedi cymryd mwy na 24 awr i gael eu prosesu.

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) wedi dweud bod y ffigurau’n awgrymu bod unedau profi cymunedol – sy’n cael eu cynnal yn bennaf gan staff gofal iechyd – yn prosesu canlyniadau’n arafach na’r rhai mewn ysbytai neu ganolfannau profi rhanbarthol.

“Llanast”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod “yn gweithio gyda phartneriaid i wella’r amseroedd prosesu canlyniadau” a bod “amseroedd Unedau Profi’r Gymuned yn flaenoriaeth” i’r gwaith hwn.

Ond yn ôl Andrew RT Davies nid yw hyn yn “ddigon da.”

“Mae’r firws yn symud mor gyflym fe allai un person fod wedi cwrdd a nifer o bobl o fewn 24 awr. Fe allai hyn fod yn broblem, waeth pwy ydych chi, ond os ydych chi’n nyrs neu’n weithiwr iechyd yna fe allen nhw fod yn cwrdd a lot o bobl sy’n sal neu’n fregus,” meddai.

Ychwanegodd bod y system cynnal profion yng Nghymru yn “llanast” a’i bod yn “ymddangos nad ydy’r Prif Weinidog na’r Gweinidog iechyd yn siarad gyda’i gilydd, heb son am gael cynllun.”

Mae Andrew RT Davies wedi mynegi ei bryder am sut fydd y system yn gallu ymdopi yn ystod y gaeaf pan mae disgwyl i nifer yr achosion o’r coronafeirws gynyddu eto.

“Felly rwy’n cefnogi galwadau Coleg Brenhinol y Nyrsys i ymchwilio i hyn a’i wella rŵan fel bod Cymru mewn sefyllfa well i baratoi yn ddiweddarach.”