Llun o bencadlys newydd y BBC
Mae cwmni yswiriant Legal & General wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n buddsoddi £400m yn y cynllun i ddatblygu Sgwâr Canolog Caerdydd.
Byddan nhw’n gweithio mewn partneriaeth â chwmni Rightacres, gan sicrhau 10,000 o swyddi newydd i ganol Caerdydd.
Dyma’r buddsoddiad ariannol mwyaf mewn eiddo yng Nghymru erioed, wrth i’r cynllun drawsnewid safle 12 erw i’r gogledd o orsaf drenau Canol Caerdydd.
Mae rhan gyntaf y prosiect i’w gwblhau erbyn Ionawr 2016 ac, yn ôl y datblygwyr, mae’n cynnwys codi pencadlys arfaethedig BBC Cymru ac adeilad 135,000 troedfedd sgwâr ar gyfer swyddfeydd.
‘Pennod newydd cyffrous’
“Mae’r newyddion yma yn cynrychioli pennod newydd cyffrous yn y rhanbarth,” meddai Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd.
“Nid oes amheuaeth bod yn rhaid inni edrych am ffyrdd arloesol o gyflwyno prosiectau hanfodol ac mae hyn yn enghraifft wych,” ychwanegodd.
Fe ddywedodd hefyd y bydd ailddatblygu Sgwâr Canolog yn gwella “tirwedd Caerdydd” wrth i bobol gyrraedd o’r Orsaf Ganolog, gan sicrhau twf mewn buddsoddiad, gan ddod â thua 10,000 o swyddi i’r ardal.
Fe groesawodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y cynllun gan ddweud: “Rwy’n falch iawn o weld buddsoddiad sylweddol arall wrth galon Ardal Menter Canol Caerdydd.
“Mae’r hyder y mae Legal and General wedi’i ddangos – cwmni sy’n angor i’r ardal – yn brawf o dyfiant yr economi Gymreig,” ychwanegodd.
Mae’r Canghellor George Osborne hefyd wedi dweud ei fod yn “newyddion da” i Gymru.
Mae disgwyl i’r gwaith ar bencadlys y BBC ddechrau ym mis Tachwedd a bydd safle maes parcio Wood Street yn cael ei dynnu i lawr ddiwedd Mawrth.
Caiff y cais cynllunio manwl ei gyflwyno erbyn mis Mai, ac mae bwriad i ddechrau adeiladu’r safle erbyn dechrau mis Hydref nesaf.