Mae dyn, 45 oed, wedi’i gyhuddo o fod â ffrwydron ac arfau yn ei feddiant yn dilyn cyrch yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon.

Wrth archwilio’i eiddo yn Ballymurphy, gorllewin Belfast ddydd Gwener, daeth yr heddlu o hyd i ffrwydron ac arfau.

Cafwyd hyd i fwy na hanner cilogram o Semtex, dau ddryll, tua 200 o ffrwydron a dau daniwr.

Roedd y cyrch yn rhan o ymchwiliad yr heddlu i weithgareddau treisgar gweriniaethwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd y dyn ei arestio yn Sunderland ddydd Sul, a’i gyhuddo o feddu ar arfau a ffrwydron peryglus gyda’r bwriad o beryglu bywydau.

Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen y llys yn Belfast yn hwyrach.

Fe gafodd dyn arall, 29 oed, ei arestio ddydd Sul mewn cysylltiad â’r darganfyddiad, ond mae wedi’i ryddhau bellach. Mae dynes 21 oed yn parhau i fod yn y ddalfa.

‘Pryder mawr’

Yn ôl rhai Unoliaethwyr, mae dod o hyd i’r Semtex “yn fater o bryder mawr”.

Roedd y ffrwydryn Semtex yn cael ei ddefnyddio gan yr IRA Dros Dro yn ystod y 1980au a’r 1990au.

Fe wnaeth y Cyrnol Gaddafi, cyn-bennaeth Libya, anfon tri llwyth o Semtex i’r IRA Dros Dro – ac mae dioddefwyr wedi bod yn galw am iawndal oddi wrth Lywodraeth Libya ers hynny.

Mae Pwyllgor Dethol Gogledd Iwerddon yn San Steffan hefyd yn cynnal ymchwiliadau i rôl Llywodraeth Prydain i fynnu iawndal i’r dioddefwyr a gafodd eu heffeithio gan ffrwydron a gafodd eu cyflenwi gan Gaddafi.