Fe fydd pobol yn cael mynd ar wyliau hunanarlwyo yng Nghymru o heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 11), ar ôl i ragor o gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.

Mae’r cyfyngiadau newydd yn galluogi pobol i fynd ar wyliau i lety hunangynhaliol lle nad oes angen rhannu cyfleusterau fel toiledau ac ystafelloedd ymolchi.

Mae’r newyddion yn hwb i’r diwydiant twristiaeth, sydd wedi dioddef colledion sylweddol ers cyflwyno’r cyfyngiadau ar ddechrau’r ymlediad ym mis Mawrth.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, dim ond pobol sy’n byw gyda’i gilydd neu sy’n rhan o aelwyd estynedig sy’n cael rhannu llety gwyliau ar gyfer gwyliau hunanarlwyo.

Does dim modd i ffrindiau rentu ystafell gyda’i gilydd, yn ôl y trefniadau newydd.

Mae’r canllawiau’n berthnasol i fythynnod, carafanau, cartrefi modur, cychod a rhai llety glampio sydd â chegin ac ystafelloedd ymolchi nad oes neb arall yn eu defnyddio.

Mae’r canllawiau hefyd ar gyfer gwestai, gwely a brecwast, gwersylloedd ieuenctid sy’n darparu ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu darparu prydau bwyd mewn ystafelloedd.

Yn achos meysydd carafanau, bydd modd llogi carafanau, ond fydd cyfleusterau sy’n cael eu rhannu, gan gynnwys pyllau nofio a chyfleusterau hamdden ac ymolchi, ddim yn agor.

Mae’r canllawiau’n nodi na ddylid agor toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, bwytai, clybiau nos, bariau a chaffis lle mae pobol yn rhannu gwasanaethau ac adnoddau.