Mae gêm gyfrifiadurol Minecraft yn cael ei defnyddio i geisio hudo plant i ymddiddori yn Hanes Cymru.
Gêm lle mae’r chwaraewyr yn gallu creu eu profiad eu hun ydi Minecraft.
Mae’r chwaraewr yn cloddio ac adeiladu blociau lliw i greu byd o wahanol diroedd.
Mae Mentrau Iaith Cymru yn gobeithio y bydd codi adeiladau arwyddocaol yn hanes Cymru yn helpu plant i ddysgu am eu hanes.
Hyd yma, mae Castell Dinas Brân a phentref Capel Celyn wedi cael eu hadeiladu, gyda’r cyfan yn cael ei ddarlledu yn fyw ar gyfryngau cymdeithasol.
“Mae ysbryd ein cyndeidiau a neiniau yn fyw yn y bobl ifanc yma, pan welwch yr egni a’r dyfeisgarwch sydd ganddynt yn ailadeiladu eu hetifeddiaeth ar Minecraft,” meddai Richard Owen o Fenter Iaith Môn, sy’n rhan o’r prosiect.
“Yn ei hanfod mae’r gweithgaredd yn caniatáu i bobl ifanc gymdeithasu a chydweithio yn y Gymraeg, sgiliau hanfodol i’r gweithle yn y dyfodol, tra hefyd cael hwyl a meithrin mwy o ddyfnder dealltwriaeth am eu hanes”.
Prosiect nesaf y tîm fydd ail-greu Castell Aberlleiniog ac mae Mentrau Iaith Cymru yn bwriadu ehangu’r prosiect i blant eraill rhwng saith ag 11 oed ar draws Cymru.
Dyma sut mae Castell Dinas Brân yn edrych ar y gêm:
https://www.facebook.com/Menter.Iaith.Mon/videos/268426441136143/?v=268426441136143