Mae bragdy Wrexham Lager wedi curo gwrthwynebwyr o wledydd megis yr Almaen, Ffrainc a’r Unol Daleithiau i ennill dwy fedal aur yng ngwobrau Cwrw’r Byd yn Frankfurt.

Llwyddodd y bragdy i ennill gwobr aur am lager sy’n cael ei allforio, tra bod eu lager Bootleger Pilsner wedi ennill y wobr aur am y lager Pilsner gorau.

Dyma’r tro cyntaf i’r bragdy o Wrecsam gystadlu yn y gystadleuaeth, lle mai bron i 3,000 cwrw, gwin a gwirod o 50 o wledydd yn cael eu beirniadu.

Bu’n rhaid i’r gystadleuaeth drefnu sesiynau blasu preifat er mwyn dewis yr enillwyr eleni yn sgil pandemig y coronafeiws.

“Ategu adborth ein cwsmeriaid”

Mae bragdy Wrexham Lager wedi dweud bod ennill y ddwy wobr yn “ategu adborth” eu cwsmeriaid.

“Rydyn ni’n amlwg yn hapus iawn bod ein cynnyrch yn cael ei ystyried yn un o’r goreuon – ac mae hyn yn cael ei ategu gan yr adborth gwych rydyn ni’n ei dderbyn yn rheolaidd gan ein cwsmeriaid,” meddai cyfarwyddwr Wrexham Lager, Vaughan Roberts.

“Er mai marchnad ddomestig y Deyrnas Unedig yw ein prif darged fel erioed, rydyn ni wedi bod yn mentro fwyfwy i’r farchnad ryngwladol, a chafodd Japan flas o’n lager yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd, a bydd y wobr hon yn helpu cryfhau ein gweithgarwch ar y cyfandir”.

Wrth sôn am lwyddiant y bragdy, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rydyn ni’n gwybod erioed bod bwyd a diod Cymru o’r radd flaenaf a dyma ragor o brawf ei fod cystal os nad gwell nag unrhyw beth arall yn y byd.

“Hoffwn longyfarch Wrexham Lager ar eu llwyddiant anhygoel, nid yn unig gyda’r gwobrau hyn, ond ar eu gwydnwch wrth addasu’r cynhyrchion maen nhw’n eu masnachu yn ystod cyfnod mor anodd.

“Rwy’n sicr bod dyddiau gwell i ddod ac rydyn ni fel Llywodraeth Cymru yn mynd i ymdrechu i gefnogi ein diwydiant bwyd a diod hanfodol wrth inni ailadeiladu’r economi”.

Rhedeg allan o stoc

Mae poteli cwrw Wrexham Lager a Bootleger Pilsner wedi gwerthu allan ar hyn o bryd, ond mae llefarydd ar ran y cwmni wedi dweud wrth golwg360 eu bod yn disgwyl y bydd mwy o stoc ar gael yr wythnos nesaf.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydym wedi ei dderbyn, a bydd gennym fwy o stoc yr wythnos nesaf,” meddai.