Mae’r awdur, Manon Steffan Ros, wedi ennill gwobr llyfrau plant ‘Tir na n-Og’ am y pumed tro.

Mi enillodd y brif wobr yn y categori llyfr ‘Cymraeg oedran cynradd’ ar y cyd â’r darlunydd, Jac Jones, gyda’u llyfr Pobol Drws Nesaf.

Byw yn fy Nghroen, llyfr a gafodd ei olygu gan Sioned Erin Hughes, yw’r enillydd yn y categori llyfrau ‘Cymraeg uwchradd’.

“Mae’n gymaint o fraint cael Gwobr Tir na n-Og am lyfr sydd mor agos at fy nghalon â Pobol Drws Nesaf,” meddai Manon Steffan Ros.

“Mae’r stori’n syml ac yn ysgafn, a dwi’n meddwl fod hynny’n bwysig am fod ganddi, mewn gwirionedd, neges fawr – fod angen i ni ddathlu ein gwahaniaethau, a pharchu pawb.

“Roedd hi’n bleser mawr cael cydweithio efo Jac unwaith eto, sydd wastad yn rhoi ychydig o hud a lledrith yn ei ddarluniau, ac yn darganfod yr hyn sydd rhwng y geiriau.”

Y llyfrau

Llyfr llun a stori ar gyfer plant tair i saith oed yw Pobol Drws Nesaf, sydd yn annog y darllenwr i barchu pawb ac i beidio â beirniadu pobol sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol.

Casgliad yw Byw yn fy Nghroen o brofiadau pobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor.

Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, ac mae’r llyfr yn mynd i’r afael â chanser, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

“Mi ydw i ar ben fy nigon ac yn falch fod y llyfr wedi cyflawni’r hyn roeddwn i’n gobeithio y byddai’n ei gyflawni, sef cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac empathi ynghylch heriau iechyd ymysg pobl ifanc,” meddai golygydd Byw yn fy Nghroen, Sioned Erin Hughes.

Y wobr

Cafodd gwobrau Tir na n-Og eu sefydlu gan Gyngor Llyfrau Cymru yn 1976 i wobrwyo’r llyfrai gorau i blant a phobol ifanc – ac i annog pobol i brynu llyfrau ac i’w darllen.

Mae’r enillwyr yn derbyn gwobr o £1,000 a cherdd gomisiwn – Cyngor Llyfrau Plant Cymru sydd yn noddi’r rhain.

Mae Manon Steffan Ros eisoes wedi ennill y wobr am: Fi a Joe Allen (2019, categori uwchradd), Pluen (2017, uwchradd), Prism (2012, cynradd), a Trwy’r Tonnau (2010, cynradd).