Osi Rhys Osmond
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Heddwch y Cenhedloedd Unedig bydd Cymdeithas y Cymod Caerfyrddin a Chyngor y Dref yn cynnal seremoni heddiw i alw ar heddwch drwy’r byd.

Bydd Maer y dref, y cynghorydd Barry Williams a thrigolion Caerfyrddin yn ymgynnull y tu allan i Neuadd San Pedr i godi’r Faner Heddwch a fydd yn cael ei lle ar rai o adeiladau’r Cyngor yn y dref.

Lansio llyfr un o’r trefnwyr cyntaf

Eleni, bydd dathliad hefyd yn Oriel Heol y Brenin er mwyn lansio llyfr i gofio am yr artist Osi Rhys Osmond, Ecounters with Osi, a fu farw ym mis Mawrth eleni.

“Osi oedd un o drefnwyr cyntaf y seremoni. Roedd yn gyfaill a fu mor driw at achos heddwch yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Mererid Hopwood, un o drefnwyr y dathliad.

Cafodd ei arddangosfa olaf ei chynnal yn yr un oriel ym mis Mawrth, dyddiau yn unig cyn iddo farw o ganser.

Bydd yr artist llythrennau, Ieuan Rees a’r gof David Petersen yno i ddilyn esiampl Osi Rhys Osmond a darlunio yn Llyfr Gwyn Caerfyrddin.

Mae’r llyfr hwn yn cynnwys enwau cannoedd o bobl sy’n galw am heddwch a gan fod tudalennau ochr dde y llyfr bron yn llawn, bydd artistiaid yn mynd ati i lunio ochr chwith y tudalennau.

Bydd y seremoni yn dechrau am 5:30pm gyda’r lansiad am 6:30pm.