Mae’r gogyddes Ena Thomas wedi marw yn 85 oed.

Daeth Ena Thomas yn enwog fel cogyddes ar y rhaglen deledu Heno yn ystod y 1990au.

Cychwynnodd weithio ar Heno yn 1993 pan oedd yn ei chwedegau a bu’n gyfrannwr cyson hyd at 2003.

Daeth yn ffefryn gyda’r gynulleidfa am ei hagwedd ddi-lol at goginio, a’i hoffter o “joch o frandi”.

“Gyda thristwch mawr daeth y newyddion am farwolaeth Ena,” meddai Cadeirydd Tinopolis a chyflwynwarig Heno, Angharad Mair.

“Bu ar Heno am flynyddoedd, nid dim ond yn coginio, ond yn diddanu, yn gwneud i ni gyd chwerthin, ac yn ffefryn gyda phawb.

“Bob amser yn gwenu… yn syml, roedd hi’n lyfli, un o’r goreuon. Diolch Ena, braint oedd d’adnabod”.

“Hollol naturiol o flaen camera”

Tra bod Sian Williams, fu hefyd yn gweithio â Ena Thomas ar Heno, wedi dweud: “Fe gwrddodd Ena a finne wrth neud raglen Heno yn y 90au, ac fe ddaethom ni’n ffrindiau yn syth.

“Roedd hi’n hollol naturiol o flaen camera, fe ddaeth yn ffefryn i’r staff a’r gwylwyr o fewn wythnosau, ac roedd ei chwerthin a’r joio yn heintus a diffuant.

“Fe gododd ddegau o filoedd o bunnoedd at elusennau dros y blynyddoedd – hyd at ei hwythnosau olaf,  pan aeth ati i gasglu ei hoff ryseitie mewn llyfr, gyda’r holl elw yn mynd at y gwasanaeth iechyd.

“Fydd na neb arall fel Ena. – roedd hi’n hollol unigryw – yn annwyl a charedig, yn ffrind da, ac un o gymeriadau mwyaf poblogaidd teledu yng  Nghymru. Dwi’n falch o’i galw hi’n ffrind, ac fe welaf ei heisiau yn fawr iawn”.

“Colled mawr”

Dywedodd Roy Noble, ffrind a chyd-gyflwynydd arall ar Heno, bod y newyddion yn “ergyd mawr i’r teulu ac i bawb roedd yn cyfrif hi fel ffrind cariadus”

Ychwanegodd “Mae’r newyddion yn drist ofnadwy, er bod Ena, druan,wedi bod yn dioddef am gyfnod mor hir.”

Gan sôn wrth Golwg360 am yr hwyl yr oedden nhw’n ei gael ar Heno, dywedodd Roy Noble:

“O! Mae’r atgofion melys a disglair yn hedfan yn ôl. Ena a fi yn y gegin, ar Heno ar nos Wener. Ena yn llawn hwyl a chwerthin […] yn coginio, fi’n blasu, a hi’n dodi brandi ym mhob peth.

“Ma hwn yn newyddion trist… yn golled mawr. Roedd yn bleser gweithio gyda Ena ac hefyd i gyfrif hi fel ffrind cynnes ac agos.”