Mae’r Cynghorydd Sir dros Bethel yng ngogledd Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll eto yn etholiad 2022.

Mae Siôn Jones wedi bod yn Gynghorydd Sir y Blaid Lafur ym Methel ger Caernarfon ers wyth mlynedd bellach.

Erbyn etholiad Gwynedd yn 2022, fe fydd wedi bod yn ei rôl ers deng mlynedd.

Daeth y cyhoeddiad ar bodlediad Daran Hill ac Alun Davies.

Dyfodol

“Dwi’n hynod falch o’r hyn yr ydym wedi gallu cyflawni dros y blynyddoedd diwethaf i’r ardal,” meddai Siôn Jones.

“Rydym wedi denu erbyn nawr dros filiwn o arian grantiau er mwyn gwella Bethel a Seion, sydd yn amlwg wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ardal.”

Yn ôl y Cynghorydd, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr y cwmni Ynni,  mae ganddo ddau “brosiect mawr” sydd angen eu gorffen cyn mynd, sef gorffen gwaith Clwb Pêl Droed Bethel a sicrhau bod y gwaith llwybr beicio o Fethel i Gaernarfon yn cychwyn.

“Pleser o’r mwyaf yw cael cynrychioli ardal mor fendigedig, ond rwy’n edrych ymlaen yn arw iawn cael trafeilio tipyn mwy a rhoi mwy o amser i ddatblygu fy musnes.” meddai.