Mae’r heddlu yn Hong Kong wedi defnyddio cyfraith ddadleuol am y tro cyntaf i arestio unigolyn oedd yn cludo baner yn galw am annibyniaeth.
Cafodd y dyn ei arestio ar ôl i dorf o bobol mewn canolfan siopa gael eu rhybuddio sawl gwaith y gallen nhw fod yn torri’r gyfraith.
Cafodd y gyfraith ei chyflwyno gan Tsieina yn dilyn protestiadau gwrth-lywodraeth y llynedd, ac fe ddaeth i rym am 11 o’r gloch neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 30).
Mae’r gyfraith yn gwahardd gweithgarwch sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth, yn ogystal ag ymyrraeth o dramor mewn materion mewnol.
Gall unrhyw un sy’n galw am annibyniaeth fod yn torri’r gyfraith, hyd yn oes os nad yw’n brotest dreisgar.
Gall y troseddau mwyaf difrifol arwain at oes o garchar, gyda throseddau llai yn deilwng o hyd at dair blynedd dan glo.
Croesawu’r gyfraith
Mae Carrie Lam, arweinydd Hong Kong, wedi croesawu’r gyfraith newydd, 23 o flynyddoedd union ers i Brydain ddychwelyd grym tros y wlad i’w llywodraeth ei hun.
“Roedd y penderfyniad hwn [i arestio’r unigolyn] y angenrheidiol ac amserol er mwyn cynnal sefydlogrwydd Hong Kong,” meddai.
Cafodd seremoni ei chynnal ddoe i nodi pen-blwydd trosglwyddo grym, a chafodd protest ei threfnu ar gyfer yr achlysur.
Roedd tua dwsin o bobol wedi ymgasglu i ganu caneuon gwrth-lywodraeth, gan alw am ddiwygio gwleidyddol ac ymchwiliad i’r honiadau o ymddygiad sarhaus gan yr heddlu.
Mae’r gyfraith yn cymylu’r berthynas rhwng Hong Kong a Tsieina a’r cysyniad o “un wlad, dwy system” oedd yn rhan o amodau annibyniaeth Hong Kong.