Mae gan gyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd “bryder gwirioneddol” am ddyfodol y diwydiant theatr am fod Llywodraeth Prydain wedi methu â rhoi digon o gefnogaeth yn sgil y coronafeirws.

Yn ôl Tamara Harvey, gallai’r sefyllfa arwain at gau theatrau gan fod amser yn “brin” a nifer o leoliadau angen cymorth.

Mae’n dweud bod effaith y feirws ar theatrau wedi bod yn “ddinistriol iawn”.

“Mae yna bryder gwirioneddol, oni bai bod y llywodraeth yn rhoi amserlen a phecyn buddsoddi sylweddol i ni’n fuan iawn, y bydd mwy o theatrau ac unigolion yn cyrraedd pwynt lle na fydd modd iddyn nhw ddychwelyd,” meddai wrth y Press Association.

“Rydyn ni’n trafod y lleoliadau a’r adeiladau oherwydd maen nhw’n fwy gweledol ar unwaith oherwydd eu maint, ond mae hyn hefyd yn ymwneud â mwyafrif y bobol sy’n gwneud i’r sioeau lwyddo – y gweithwyr ffrilans.”

Gweithwyr ffrilans, meddai, yw’r rheswm pam fod gwledydd Prydain yn “arwain ar raddfa fyd-eang mewn diwylliant”.

Amser o hyd

Does dim sicrwydd ar hyn o bryd y bydd y llywodraeth yn cefnogi gweithwyr ffrilans yn sgil y coronafeirws.

Ond mae Tamara Harvey yn dweud bod “amser o hyd” i’w hachub.

“Mae’n rhy hwyr i rai… ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i’r llywodraeth atal theatrau rhag mynd i’r wal.

“Mae hi’n rhy hwyr i rai… ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i achub y sector.

“Dydyn ni ddim yn gofyn am arian heb roi rhywbeth yn ôl.

“Mae ein cyfraniad economaidd fel sector yn enfawr.

“Mae ein cyfraniad yn nhermau iechyd a lles y gymdeithas yn gydradd â hynny, os nad yn fwy.”

Creadigrwydd ac optimistiaeth

Yn ôl Tamara Harvey, mae creadigrwydd ac optimistiaeth y diwydiant yn golygu y bydd modd i weithwyr ddod yn ôl yn iawn yn y pen draw.

“Ry’n ni’n credu bod ymarfer olaf gwael yn golygu noson gyntaf dda,” meddai.

“Os ydyn nhw’n camu i fyny nawr, byddwn ni’n dod drwyddi’n gyflym ac yn greadigol, ac yn cyrraedd llefydd uwch nag o’r blaen oherwydd dyna natur y bobol ydyn ni.”