Mae’r Prif Weinidog yn gobeithio gwneud cyhoeddiad ddechrau’r wythnos nesa’ ynghylch ‘aelwydydd estynedig’ (extended households).
Mae’r sustem yma eisoes mewn grym yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ac mae’n galluogi pobol o ddau gartref gwahanol i fedru ymwneud â’i gilydd yn ddirwystr.
Yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn “optimistaidd” y bydd yn gallu gwneud cyhoeddiad am hynny ar ddechrau’r wythnos nesa’.
“Rydym wedi cynnal trafodaethau helaeth yr wythnos yma, o fewn Llywodraeth Cymru, ynghylch y syniad o ‘aelwydydd estynedig’,” meddai.
“Trafodaethau oedd y rhain ynghylch y syniad o adael i bobol o ddau gartref ddod at ei gilydd i greu un ‘aelwyd estynedig’ er dibenion ymarferol.
“Dw i’n gobeithio y bydda’ i’n medru dod at gasgliad yn gynnar yr wythnos nesa’, ac i wneud cyhoeddiad ynghylch hynny.”
Beth yw ‘aelwydydd estynedig’?
Yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, mae modd i oedolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain – neu rieni sengl â phlant dan 18 – sefydlu ‘aelwyd estynedig’ â chartref arall.
Does dim cyfyngiad o ran maint yr ail gartref.
Ar hyn o bryd, dyw pobol fregus ddim yn medru ymuno ag ‘aelwyd estynedig’ ond mi fydd y cyfyngiad hynny yn dod i ben ar Orffennaf 6.
Unwaith rydych wedi sefydlu’r fath gyswllt â chartref arall, does dim modd i chi newid pa gartref sydd wedi ei rwymo â chi.
Mae modd i chi ymweld â thŷ y ‘cartref’ arall, a does dim rhaid i chi gadw pellter rhyngoch chi â phobol y ‘cartref’ arall. Allwch chi hyd yn oed aros dros nos yn y tŷ arall.
Os oes unrhyw aelod o’r ‘aelwyd estynedig’ yn datblygu symptomau covid-19, rhaid i bawb hunan ynysu.