Mae prosiect newydd wedi ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, o’r enw CSconnected, wedi derbyn £44 miliwn o nawdd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a diwydiant heddiw (dydd Gwener, Mehefin 26).

Drwyddi draw bydd dros £400 miliwn o gyllid llywodraethol, diwydiannol a sefydliadau ymchwil yn cael ei roi i ysgogi prosiectau ymchwil a datblygu ar draws gwledydd Prydain.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig bydd y cyllid yn cryfhau diwydiannau yn ne Cymru yn ogystal â darparu datblygiadau technolegol i’r ardal megis 5G.

“Bydd y buddsoddiad o £44 miliwn i’r prosiect sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd yn rhoi hwb i’r ymchwil anhygoel sydd eisoes yn digwydd ar draws de-ddwyrain Cymru,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart.

Tra bod yr Ysgrifennydd Busnes Alok Sharma wedi dweud y bydd yr “ymchwil rydym yn ei gefnogi ddim yn unig yn dda i gwsmeriaid, ond hefyd yn creu cyfleoedd swyddi newydd ar draws de Cymru”.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda phartneriaid megis:

  • Prifysgol Abertawe
  • Cyngor Caerdydd
  • Llywodraeth Cymru
  • Compound Semiconductor Centre Limited
  • Microsemi Semiconductor Limited
  • IQE PLC
  • Newport Wafer Fab Ltd
  • SPTS Technologies Limited
  • Compound Semiconductor Applications Catapult Limited
  • Rockley Photonics Limited

Pwy arall sy’n derbyn buddsoddiadau?

 Ymysg y sefydliadau eraill fydd yn derbyn buddsoddiad o’r math yma gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig mae:

  • £114 miliwn i gonsortiwm wedi ei arwain gan Ysgol Meddyginiaethau Trofannol Lerpwl.
  • £55 miliwn i Brifysgol Caeredin.
  • £46 miliwn i gonsortiwm wedi ei arwain gan Brifysgol Bryste.
  • £33 miliwn i gonsortiwm wedi ei arwain gan Sefydliad Cenedlaethol Archaeoleg Botany.
  • £91 miliwn i gonsortiwm wedi ei arwain gan Brifysgol Glasgow.
  • £63 miliwn i gonsortiwm wedi ei arwain gan Artemis Technologies Ltd.

Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r buddsoddiad

Mae’r Aelod o’r Senedd Ceidwadol dros Maldwyn, a’r Gweinidog Cysgodol tros Isadeiledd, wedi croesawu buddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn croesawu’r hwb yma i sectorau ymchwil a datblygu ac arloesi yn ne Cymru gan ei fod yn dangos brwdfrydedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn yr ardal,” meddai Russell George

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i dde Cymru, ac mae buddsoddiadau fel hyn yn dda, nid yn unig i gwsmeriaid a’r diwydiannau, ond bydd hefyd yn creu swyddi newydd ar draws de Cymru.”