Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu diogelwch gweithwyr a chynnal strategaeth ofalus wrth lacio rheolau’r gwarchae.

Dywed y TUC hefyd fod angen gweithredu ar frys ynglŷn â thâl salwch, gan ddweud ei bod hi’n “annheg” disgwyl i weithwyr ar gyflogau isel hunan-ynysu ar £95 yr wythnos.

“Y risg mwyaf mae economi Cymru’n wynebu ar hyn o bryd yw methiant i reoli’r coronaferiws,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol TUC, Savanah Taj.

“Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn gywir i wrthsefyll pwysau i ddilyn penderfyniadau di-hid Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn credu mai cadw at y rheol dau fetr yw’r ffordd orau i watchod gweithwyr yng Nghymru”.

Bywydau gweithwyr yw’r “flaenoriaeth”

Dywed y TUC mai “gwarchod bywydau gweithwyr” yw eu blaenoriaeth.

“Mae’r asiantaethau sydd wedi cael y dasg o sicrhau bod gweithleoedd yn saff wedi cael eu tanseilio gan 10 mlynedd o bolisïau llymder (austerity),” meddai Savanah Taj.

“Rydym hefyd angen gweithredu ar frys ar dâl salwch. Mae disgwyl i weithwyr ar gyflogau isel hunan-ynysu am gyfnodau hir ar £95 yr wythnos. Dyw hynny ddim yn deg na chynaliadwy.

“Os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i weithredu ar hyn, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda ni i ffeindio datrysiad ar frys”.