Mae cwest i farwolaeth cyn-filwr o Gaerdydd wedi clywed bod ei chorff wedi cael ei ddarganfod yn ei char, a bod nodyn yn ei chartref yn awgrymu ei bwriad.

Fe wasanaethodd Lisa Brydon y Fyddin a’r SAS yn Irac ac Affganistan cyn iddi adael y lluoedd arfog yn 2013.

Roedd hi’n 42 oed ac yn dod o Newcastle yn wreiddiol.

Clywodd y llys ar ddiwrnod cynta’r cwest ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 23) fod tri barbeciw oedd wedi llosgi wedi’u cael yng nghist ei char a nodyn yn ei chartref.

Cafwyd hyd iddi’n anymwybodol ar Fehefin 9.

Mae ei theulu wedi rhoi gwybod i’r crwner am ei brwydr â salwch iechyd meddwl ac mewn cyfweliad â’r Daily Mirror, dywed ei chwaer Tracy Curry iddi geisio gwneud amdani ei hun o leiaf bump o weithiau yn ystod ymlediad y coronafeirws, ar ôl dioddef PTSD ac iselder.

Mae’r cwest wedi’i ohirio tan Fehefin 30, ac mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn cynnal ymchwiliad i’w marwolaeth.