Mae llythyr agored gan gymunedau o bobol groenddu yng Nghymru yn galw ar Adam Price i ymddiheuro am sylwadau mewn cyfweliad gyda Sefydliad Materion Cymreig fis Tachwedd y llynedd.

Daw hyn ar ôl i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething groesawu cydnabyddiaeth Plaid Cymru fod yr hyn ddywedodd Adam Price wrth Nation.cymru ynglŷn â “thalu digolledion” (reparations) i Gymru yn anghywir.

Mewn e-bost a gafodd ei gweld gan BBC Cymru, ymddiheurodd Plaid Cymru am sylwadau Adam Price gan ddweud ei fod “nawr yn cydnabod a derbyn y feirniadaeth mewn ymateb i’r stori – hynny yw, fod cyflwyno’r fath ddadl heb ystyried rhan Cymru yn yr ymerodraeth a gwladychiaeth yn anghywir.”

Ond mae pwysau ar yr arweinydd yntau i ymddiheuro hefyd.

“Os na fydd [Adam Price] yn ymddiheuro, ac os nad oes craffu ac atebolrwydd difrifol am y sylwadau hyn, mae’n amlwg iawn i ni nad yw bywydau du o bwys yng Nghymru”, meddai’r llythyr.

Er hyn, yn ôl y llythyr agored gan gymunedau croenddu yng Nghymru, cafodd yr e-bost yma ei hanfon cyn cyfweliad Adam Price gyda Sefydliad Materion Cymreig lle honnodd yr arweinydd fod y profiad o fod yn Gymro yn “cyfateb, os nad yn union yr un fath, â phrofiad gwladychiaeth”.

Y penwythnos diwethaf, ysgrifennodd Adam Price ar wefan Nation.cymru ei fod yn cydnabod fod ei ddefnydd o’r gair “digolledion” yn gamgymeriad.

“Os gwnaeth fy newis gwael o eiriau achosi poen i unrhyw un yna mae’n ddrwg iawn gen i,” meddai.

Er hyn, mae’r llythyr agored gan gymunedau croenddu yng Nghymru yn honni nad ydy Adam Price wedi cymryd cyfrifoldeb am yr hyn ddywedodd.

“Nid ymddiheuriad yw hwn”, meddai’r llythyr.

“Dydy Mr Price ddim yn cymryd cyfrifoldeb am ei sylwadau, ond yn hytrach yn awgrymu fod y rheini sydd yn ei glywed yn cymryd tramgwydd.”

Egluro neu ymddiheuro

Mae’r llythyr gan gymunedau croenddu yng Nghymru yn galw ar Adam Price i un ai “egluro ei sylwadau” neu “ymddiheuro’n iawn”.

“Mae bod yn wrth-hiliol yn golygu dwyn sylwadau niweidiol fel rhai Mr Price i gyfrif,” meddai.

“Rhaid i’r cyfryngau Cymreig gamu i fyny a gwneud eu gwaith.

“Ac mae’n rhaid i wleidyddion ac eraill egluro nad yw’r farn yma yn un a deimlir yn eang yng Nghymru.

“Nawr yw’r amser i bawb ledled Cymru fod yn wrth-hiliol – fel sydd wedi ei amlygu dros yr wythnosau diwethaf, mae unrhyw beth yn llai na hyn yn hiliaeth systemig.”

Ymateb Plaid Cymru

“Mae’r materion a godwyd yn y llythyr eisoes wedi cael llawer o sylw. Fel ymgyrchydd gwrth-hiliaeth gydol ei oes, mae Mr Price yn gwrthod yn llwyr y cyhuddiad ei fod yn “fwriadol” wedi ceisio tramgwyddo pobl o liw neu wneud yn fach o’u profiadau yn y gorffennol neu’r presennol,” meddai ffynhonnell Plaid Cymru.

“Mae’r honiad mai ‘dog whistle’ yw hwn, gan gefnogi hiliaeth, yn siomedig ac yn peri loes ar adeg pan fo Mr Price wedi ymdrin yn flaenllaw â bywydau pobol dduon ac o leiafrifoedd ethnig.

“Bydd Mr Price yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth Lafur i fabwysiadu cwricwlwm mwy cynhwysol sy’n cydnabod brwydrau a chyfraniad cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

“Bydd hefyd yn galw am weithredu ehangach mewn ymateb i’r hiliaeth strwythurol a systemig nad yw wedi cael sylw priodol er gwaethaf dros ugain mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, fel yr amlygwyd gan yr adolygiad mwyaf diweddar o anghyfartaledd hiliol mewn marwolaethau Covid-19 yng Nghymru.”