Mae cwmni bwyd Castell Howell yn Sir Gaerfyrddin yn rhybuddio am golli swyddi ar ddechrau cyfnod ymgynghori.

Mae’r cwmni’n cyflogi dros 700 o bobol ar draws eu holl safleoedd, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n wynebu trafferthion yn sgil y coronafeirws.

Mae gwerthiant wythnosol y cwmni i lawr 65%, meddai datganiad y cwmni, sy’n dweud ei bod hi’n “annhebygol y bydd masnach yn adfer yn llwyr tan ymhell i mewn i 2021”.

“Mae digwyddiadau mawr wedi’u canslo ac mae’n debygol na fydd ein cwsmeriaid craidd, megis ysgolion, tafarnau, bwytai, gwestai, caffis ac arlwyo yn y gweithle yn agor i’w capasiti llawn am rai misoedd,” meddai.

Ar ben hynny, maen nhw’n dweud bod cynllun gweithwyr ar gennad y llywodraeth yn dod i ben ym mis Hydref, a bod angen gweithredu er mwyn lleihau effaith hynny.

Maen nhw’n dweud bod nifer y swyddi fydd yn cael eu colli’n dibynnu ar faint o fasnach sydd ganddyn nhw unwaith fydd modd rhoi camau ymbellhu cymdeithasol yn eu lle.

Bydd unrhyw swyddi sy’n cael eu colli ar sail diswyddiadau gwirfoddol a gorfodol, a bydd oriau rhai gweithwyr yn cael eu cwtogi.

Ymateb y Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae Brian Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr, wedi ymateb i’r newyddion yn y datganiad.

“Fe fu hwn yn benderfyniad anodd iawn, ac mae’n fy nhristháu yn bersonol gan fy mod i’n gwybod y pryder y bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn ei achosi i’n gweithwyr,” meddai.

“Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w cefnogi nhw yn ystod y cyfnod hwn.

“Mawr obeithio y bydd unrhyw swyddi sy’n cael eu colli yn y tymor byr yn cael eu creu eto yn y pen draw pan fydd y sector lletygarwch yn cael ei adfer.

“Ar ôl mwy na 30 mlynedd o adeiladu’r busnes a masnachu’n llwyddiannus, doedd hyn yn sicr ddim yn rywbeth ro’n i’n meddwl y byddai angen i ni ei ystyried byth.

“Hoffwn sicrhau pawb sydd yn gysylltiedig â’n cwmni, gan gynnwys ein cwsmeriaid hynod ffyddlon, y bydd cymryd y camau diogelu hyn yn sicrhau y gall Castell Howell barhau i ddarparu lefel y gwasanaeth yr ydyn ni’n enwog amdano.”