Nadia Jones
Mae dyn a  dynes wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio Nadia Jones.

Cafwyd hyd i gorff y fam 38 oed yn ei fflat yn Meirion Place, yn Nhremorfa ar ddydd Gwener, 11 Medi.

Mae Kial Ahmed, 34, o Dongwynlais, a Roxanne Deacon, 26, o Grangetown wedi’u cyhuddo o lofruddio Nadia Jones.

Roedd y ddau wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd y bore ma lle wnaethon nhw gadarnhau eu henwau yn unig.

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd mam Nadia Jones mewn datganiad: “Er ein bod wedi ein tristau yn ofnadwy gan yr hyn sydd wedi digwydd fe fyddwn ni bob amser yn cofio Nadia fel merch hapus a bywiog, gyda gwen ar ei hwyneb.”

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 1010 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar   0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500334982.